Cynnig Gofal Plant – Gwybodaeth i ddarparwyr gofal plant

Gwybodaeth i ddarparwyr gofal plant

Cynnig Gofal Plant – Gwybodaeth i ddarparwyr gofal plant

Mae cyllid gofal plant Cynnig Gofal Plant Cymru ar gael i deuluoedd yng Nghymru sydd:

  • Cyflogedig neu hunangyflogedig sy’n ennill o leiaf cyfwerth ag 16 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, hyd at £100,000 gros y flwyddyn. Y Ddau Riant
  • Wedi cofrestru ar gwrs addysg bellach neu gwrs addysg uwch israddedig neu ôl-raddedig sydd o leiaf 10 wythnos o hyd. Un neu’r ddau riant.  Rhaid i’r cwrs gael ei redeg gan goleg neu brifysgol a ariennir yn gyhoeddus i gymhwyso, neu mewn Addysg Bellach.

Mae’r Cynnig ar gael yn dilyn tymor 3ydd pen-blwydd y plentyn hyd at fis Medi ei ben-blwydd yn 4 oed.

Os oes gan blentyn yn eich lleoliad anghenion ychwanegol ac angen Darpariaeth Uwch, mae cyllid ychwanegol ar gael.  Os ydych yn ymwybodol o blentyn a allai fod angen cymorth ychwanegol, cysylltwch â’ch Ymgynghorydd Blynyddoedd Cynnar.

Am y Cynnig Gofal Plant

Gall teuluoedd hawlio hyd at 30 awr o Gyllid y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn.  Gwneir hyn drwy: 

  • Lleiafswm o 10 awr o ddarpariaeth Addysg Blynyddoedd Cynnar a hyd at 20 awr o gyllid y Cynnig Gofal Plant yn ystod y tymor. 
  • Yn ystod gwyliau ysgol, gellir hawlio 30 awr o gyllid gofal plant.

Bydd angen hawlio oriau Addysg Blynyddoedd Cynnar ar wahân drwy’r wefan derbyn i ysgolion: Ceisiadau derbyn i ysgolion

Nid oes angen i ddarparwyr gofal plant gyflwyno elfennau addysg gynnar a gofal plant y cynnig.  Bydd rhai plant yn parhau i gael mynediad i addysg gynnar mewn lleoliadau a gynhelir (dosbarthiadau meithrin mewn ysgolion).

Sut i ddod yn ddarparwr Cynnig Gofal Plant

I gofrestru fel darparwr Cynnig Gofal Plant, rhaid i chi fod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Yna bydd angen i chi gofrestru eich lleoliad Gofal Plant yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru drwy eu gwefan Cynnig Gofal Plant.  Ymwelwch Cofrestrwch eich lleoliad gofal plant i gael Cynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU

Yna byddwn yn cael gwybod amdanoch chi fel darparwr sydd wedi cofrestru i ddarparu lleoedd Cynnig Gofal Plant.

Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â Hyb y Blynyddoedd Cynnar.

Sut mae teuluoedd yn gwneud cais am gyllid

Bydd angen i bob rhiant sy’n dymuno derbyn gofal plant a ariennir gan Gynnig Gofal Plant Cymru wneud cais drwy’r Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol ar-lein.

Ewch i’r adran am Cynnig Gofal Plant – Gwybodaeth i rieni  ynghylch cymhwysedd a sut mae rhieni’n gwneud cais.

 

Sut mae darparwyr gofal plant yn hawlio'r cyllid

Mae’n rhaid i riant gael cais wedi’i gymeradwyo i allu hawlio lleoliad a ariennir gan y Cynnig Gofal Plant.  Unwaith y caiff y cais ei gymeradwyo bydd y rhiant yn sefydlu cytundeb ar-lein.  Rhaid i chi lofnodi i mewn i’ch cyfrif Cynnig Gofal Plant Cymru a chymeradwyo’r cytundeb hwn cyn y gall lleoliad ddechrau.

Unwaith y bydd y cytundeb wedi ei sefydlu bydd y plentyn yn ymddangos ar eich taflen amser wythnosol.  Gellir gweld hwn hefyd drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Cynnig Gofal Plant Cymru.  Os nad yw plentyn ar y daflen amser, nid oes cyllid ar gael.

Cyfeiriwch at Ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru: Gofal i blant 3 a 4 oed: canllawiau polisi ar gyfer darparwyr | LLYW.CYMRU

Newidiadau i amgylchiadau rhieni

Cyfrifoldeb y rhiant neu warcheidwad yw dweud wrth Lywodraeth Cymru os bydd eu hamgylchiadau’n newid.  Maent yn gwneud hyn trwy fewngofnodi i’w cyfrif ar-lein.  Yn dibynnu ar y newid, gallai hyn olygu nad ydynt bellach yn gymwys i gael cyllid.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal gwiriadau bob tymor ar bob hawliwr i sicrhau eu bod yn dal yn gymwys.  Mae’n hanfodol eu bod yn ymateb i’r gwiriadau cymhwysedd hyn er mwyn osgoi tynnu eu cyllid yn ôl.  Ceir rhagor o fanylion am y broses hon ar dudalen we Newidiadau yn eich amgylchiadau a gwiriadau cymhwysedd.

Dilynwch ni

Facebook