Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy

Rhan o fenter Cynllun Ysgolion Iach Llywodraeth Cymru

Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy

Cafodd y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy (y Cynllun), sef y Cynllun Blynyddoedd Cynnar Iach gynt, ei ddatblygu yn dilyn argymhellion gan grŵp gorchwyl a gorffen. Ei nod yw sefydlu cynlluniau ysgolion iach lleol drwy bartneriaethau iechyd ac addysg ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r Cynllun, ar y cyd â Chynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru, yn cael ei ddarparu ledled holl ardaloedd awdurdodau lleol Cymru.

Trosolwg o’r Cynllun

Mae’r cynllun wedi’i anelu at bob darpariaeth gofal plant, gan gynnwys cylchoedd chwarae, cylchoedd meithrin, meithrinfeydd dydd, clybiau y tu allan i oriau ysgol a gwarchodwyr plant, ac mae’n cydnabod lleoliadau gofal plant fel cyfranwyr gwerthfawr at iechyd a lles plant.

Mae’r cynllun yn cynorthwyo ac yn cysylltu â nifer o feysydd gwaith allweddol gan gynnwys, Cwricwlwm i Gymru, Dechrau’n Deg, Estyn, Arolygiaeth Gofal Cymru, Teuluoedd yn Gyntaf, Cynllun Gwên, Cymru Iach ar Waith, a Gwobr Byrbrydau Iach Safon Aur.

Mae amgylchedd gofal plant iach yn hyrwyddo ac yn diogelu iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei gymuned. Mae hyn yn cynnwys datblygu polisi, cynllunio strategol ac hyfforddi staff, yn ogystal ag ystyried yr ethos, yr amgylchedd ffisegol a pherthnasoedd cymunedol.

Pynciau gwella iechyd

Mae lleoliadau gofal plant yn gweithio tuag at lwyddo yn y pynciau gwella iechyd allweddol hyn:

  • Rhagarweiniol
  • Maeth ac iechyd y geg
  • Gweithgaredd corfforol a chwarae actif
  • Lles emosiynol a meddyliol, gan gynnwys perthnasoedd
  • Iechyd a lles yn y gweithle
  • Yr amgylchedd
  • Diogelwch
  • Hylendid

Cyflwynir y pynciau hyn ar draws pedwar parth:

  • Arweinyddiaeth a chyfathrebu
  • Cynllunio a chyflawni
  • Ethos a’r amgylchedd
  • Cynnwys Teuluoedd a’r Gymuned

Gweithredu

Mae’r Cynllun yn cael ei weithredu a’i achredu fesul cam, sef ‘cyfnodau’, gyda phob cyfnod yn para tua blwyddyn. Mae lleoliadau’n datblygu ac yn hyrwyddo wyth maes gweithredu penodol:

Cyfnod rhagarweiniol: Dull lleoliad cyfan sy’n cynnwys rhaglenni iechyd cydgysylltiedig, cynhwysfawr a blaengar.

Maeth ac iechyd y geg: Adlewyrchu ymagwedd lleoliad cyfan at fwyd, maeth ac iechyd y geg, gan ymgorffori hyrwyddo diet cytbwys iach sy’n seiliedig ar ganllawiau cenedlaethol cyfredol ac arfer da mewn perthynas ag iechyd y geg.

Gweithgarwch corfforol a chwarae actif: Cynorthwyo amrywiaeth eang o weithgareddau corfforol hygyrch a phrofiadau chwarae actif sy’n bodloni anghenion datblygiadol plant.

Lles emosiynol a meddyliol, gan gynnwys perthnasoedd: Adlewyrchu ethos y lleoliad a ddylai annog parch gan bawb at ei gilydd a hyrwyddo lles meddyliol ac emosiynol, yn yr ystyr ehangaf. Mae hefyd yn amlygu pwysigrwydd datblygu perthnasoedd cadarnhaol ac, felly, mae’n ymdrin â rhai agweddau ar ddatblygiad personol.

Iechyd a lles yn y gweithle: Hyrwyddo gweithle gydag ymrwymiad i iechyd a lles yr holl staff. Mae gweithle da yn bwysig ar gyfer iechyd a lles corfforol a meddyliol. Bydd gan gyflogwyr sy’n mabwysiadu arferion gwaith da weithlu hapus, iach a chynhyrchiol, sydd â lefelau is o ran absenoldeb.

Yr amgylchedd: Bydd darpariaeth yn hyrwyddo amgylchedd diogel ac ysgogol sy’n adlewyrchu pwysigrwydd y bobl sydd ynddo, gyda phwyslais ar ofalu am yr amgylchedd o fewn y lleoliad a’r tu allan iddo.

Diogelwch: Bydd lleoliadau yn adlewyrchu ymagwedd ragweithiol at bob agwedd ar ddiogelwch, gan gynnwys ystyried yr holl sylweddau. Dylai fod cydnabod y gallairhieni a staff sy’n defnyddio alcohol a sylweddau anghyfreithlon effeithio ar ddiogelwch y plant yn y lleoliad. Mae ysmygu hefyd wedi’i gynnwys yn yr adran hon ond dylai gael ei ystyried fel mater iechyd ac nid mater diogelwch yn unig. Mae rhai agweddau ar ddiogelwch yn statudol, e.e. diogelu, iechyd a diogelwch, ac er bod y rhain yn cael sylw, bydd angen eu hystyried ar wahân yn fanylach. Mae imiwneiddio hefyd yn cael ei drafod yma fel mater diogelwch. Mae cadw cofnodion o imiwneiddio yn arfer da sy’n ddefnyddiol os bydd achos.

Hylendid: Adlewyrchu hylendid da, gan ei fod yn hanfodol bwysig i leoliadau’r blynyddoedd cynnar.

Sut i gymryd rhan

Mae’r cynllun wedi’i gymeradwyo’n llawn gan Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae lleoliadau cofrestredig yn cael:

  • Cymorth llawn Ymarferydd Arbenigol y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy
  • Y cyngor a’r arweiniad diweddaraf
  • Hyfforddiant ac adnoddau
  • Cysylltiadau â’r cwricwlwm newydd
  • Mynediad at Wobr Byrbrydau Iach Safon Aur

Os ydych chi’n gweithredu lleoliad y blynyddoedd cynnar a bod gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â Hwb y Blynyddoedd Cynnar HwbYBlynyddoeddCynnar@caerffili.gov.uk neu 01443 863232.

 

Dilynwch ni

Facebook