Mae’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau gofal plant nas cynhelir wedi’i fabwysiadu nid yn unig gan leoliadau sy’n cynnig lleoedd Addysg y Blynyddoedd Cynnar, ond hefyd gan y rhai sy’n cynnig Dechrau’n Deg a hyd yn oed gan lawer o ysgolion yn eu dosbarthiadau meithrin a derbyn.
O ran y cwricwlwm newydd ar gyfer lleoliadau nas cynhelir:
“Ei nod yw meithrin ymdeimlad o falchder a pherthyn ymhlith ymarferwyr a phlant, gan ddathlu diwylliant amrywiol Cymru fodern a helpu plant i ddatblygu ymdeimlad o gynefin*. Fe’i datblygwyd i gefnogi ein gwaith gyda phlant ar ddechrau’r continwwm dysgu 3 i 16 oed, er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cychwyn gorau posibl ar y daith honno.”
(O’r Cwricwlwm ar gyfer Lleoliadau Meithrin a Ariennir nas Cynhelir, 2022.)
*Cynefin = Y man rydyn ni’n teimlo ein bod yn perthyn, lle mae’r bobl a’r tirlun o’n cwmpas yn gyfarwydd, ac rydyn ni’n cael tawelwch meddwl o adnabod y golygfeydd a’r seiniau. Y man hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol sydd wedi llywio’r gymuned sy’n byw yno, ac sy’n parhau i wneud hynny..
Isod yw’r ddolen i’r Modiwlau Dysgu Proffesiynol ar Hwb a’r trefniadau asesu
Dilynwch ni