Sut i ddod yn Ddarparwr Gofal Plant cymeradwy ar gyfer lleoliadau gofal plant wedi’u hariannu
I ddarparu lleoliadau gofal plant wedi’u hariannu yng Nghaerffili, bydd angen i chi ymuno â’n rhestr o ddarparwyr cymeradwy. Rhaid i chi wneud hyn trwy ein System Prynu Deinamig (SPD).
Mae yna 3 Lot ar yr SPD:
- Lot 1 – Darparu Addysg Blynyddoedd Cynnar
- Lot 2 – Darparu Lleoedd Dechrau’n Deg
- Lot 3 – Darparu Lleoedd a Gefnogir ac a Gynorthwyir
Gallwch wneud cais i ddarparu cymaint o Lotiau ag y mynnwch mewn un cais.
Sut i ddod ar yr SPD
- Cofrestrwch fanylion eich cwmni ar wefan Gwerthwch i Gymru
- Yna ewch i System e-dendro Proactis Plaza CBSC a naill ai mewngofnodi neu ‘gofrestru’
- Unwaith yn y system, ewch i’r tab ‘Cyfleoedd’ a chwilio am y geiriau allweddol – ‘Gofal Plant’
- Dewiswch ‘Darpariaeth Gofal Plant SPD – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’
- Darllenwch y Manylebau / Atodiadau ar gyfer pob Lot yn ofalus yn y tab ‘Cyffredinol’
- Cwblhewch y cais SPD ar-lein yn y tab ‘Cwestiynau’.
- Ar ôl ei gwblhau cliciwch ‘cyflwyno’ i Gaffael. Ar ôl gwneud hyn, anfonwch e-bost at Helen Sellwood Sellwhl@caerffili.gov.uk a mewnflwch y Blynyddoedd Cynnar BlynyddoeddCynnar@caerffili.gov.uk i’n hysbysu.
- Ar ôl i’r holl fanylion gael eu gwirio gan Gaffael, bydd tîm y Blynyddoedd Cynnar yn cael gwybod, a byddwch yn cael eich rhoi ar yr SPD.
- Os oes unrhyw beth ar goll o’ch cais, bydd y Tîm Caffael yn cysylltu â chi i ofyn am yr wybodaeth sydd ar goll. Bydd hefyd angen i chi gwblhau’r Cytundeb Rheolydd Data (DCA) cyn y gellir eich rhoi ar y System Brynu Ddeinamig.
Am help, cysylltwch â’n Tîm Caffael – Jemma Ford fordj1@caerffili.gov.uk
Cyn i chi allu darparu lleoedd sydd wedi’u hariannu
- Bydd Swyddogion y Blynyddoedd Cynnar yn cwblhau’r Gwiriadau Cyn Cyflwyno er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni’r holl ofynion o ran darparu’r gwasanaeth, gan gynnwys:
- Cymhwyster
- Gwiriadau ansawdd yr amgylchedd, er enghraifft, Graddfa Sgorio Amgylchedd Babanod a Phlant Bach (ITERS) a Graddfa Sgorio Amgylchedd Plentyndod Cynnar (ECERS).
- Gweithio tuag at Safonau Ansawdd Caerffili a’r Cynllun Blynyddoedd Cynnar Iach
- Y 4 Pecyn Cymorth, Ariannol, Iechyd a Diogelwch, Diogelu a Chynhwysiant
- Polisïau
- Hyfforddiant, ac ati
- Unwaith y bydd y gwiriadau hyn wedi’u cwblhau, byddwch yn cael eich rhoi ar ein rhestr ‘Ar Waith’ o ddarparwyr ar gyfer y LOTIAU yr ymgeisiwyd amdanynt ar eu cyfer, a bydd teuluoedd yn gallu cael mynediad at leoliadau gyda chi.
- Cewch eich sefydlu ar system Cyswllt Caerffili i roi mynediad i chi at waith papur gan gynnwys y CGPau
Unwaith y byddwch ar yr SPD, bydd Swyddogion ac Ymgynghorwyr CBSC yn parhau i’ch cefnogi i ddarparu lleoliadau o ansawdd uchel.
Dilynwch ni