Darparu lleoedd Addysg y Blynyddoedd Cynnar a ariennir

Darparu lleoedd Addysg y Blynyddoedd Cynnar a ariennir

Yng Nghaerffili, mae Gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar yn croesawu darparwyr gofal plant sy’n dymuno darparu lleoedd Addysg y Blynyddoedd Cynnar a ariennir.

Er mwyn i ddarparwr gofal plant gyflwyno Addysg y Blynyddoedd Cynnar, rhaid iddyn nhw wneud cais yn gyntaf i’n System Prynu Deinamig (DPS) i gael ei gymeradwyo.

Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir

Unwaith y bydd wedi’i gymeradwyo ar y DPS, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg i gynorthwyo ansawdd a darpariaeth y Cwricwlwm Newydd ar gyfer lleoliadau gofal plant nas cynhelir.

Rhagor o wybodaeth

Os nad ydych chi’n cynnig Addysg y Blynyddoedd Cynnar yn eich lleoliad eto ond hoffech chi wneud hynny, cysylltwch â’ch Swyddog Gofal Plant neu Hwb y Blynyddoedd Cynnar am gymorth.

 

Dilynwch ni

Facebook