Porth darparwyr Dewis

Cofrestrwch heddiw!

Porth darparwyr Dewis

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) Caerffili bellach yn cyfeirio teuluoedd at Dewis i gael gwybodaeth am ddarparwyr gofal plant ym mwrdeistref sirol Caerffili.

Mae Dewis Cymru yn wefan genedlaethol sy’n cynnwys gwybodaeth am dros 6000 o wasanaethau lleol a chenedlaethol ledled Cymru, ac sy’n cael ei hyrwyddo’n eang yn siop un alwad i deuluoedd gyrchu gwybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau, gan gynnwys gofal plant.

Mae GGD Cymru yn cynnig golwg symlach ar Dewis ac yn cynnwys darparwyr gofal plant yn unig.

Cofrestru ar wefan Dewis

Os ydych yn ddarparwr gofal plant ac nad ydych ar Dewis, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cofrestru heddiw.

Cofrestrwch/Mewngofnodwch yma

Mae yna hefyd Cwestiynau Cyffredin am Dewis Cymru os ydych am gael rhagor o wybodaeth.

Manteision

  • Hysbysebu eich gwasanaeth yn rhad ac am ddim
  • Hyrwyddir eich gwasanaeth ar lefel genedlaethol
  • Cefnogir chwilio trawsffiniol i helpu teuluoedd sy’n edrych am wasanaethau mewn ardaloedd awdurdodau cyfagos eraill
  • Gall darparwyr fewngofnodi a diweddaru eu gwybodaeth eu hunain

Dilynwch ni

Facebook