Cynnig Gofal Plant – Newidiadau yn eich amgylchiadau a gwiriadau cymhwysedd

Cynnig Gofal Plant – Newidiadau yn eich amgylchiadau a gwiriadau cymhwysedd

Rhaid i chi ddiweddaru eich cyfrif Cynnig Gofal Plant Cymru ar unwaith os bydd eich amgylchiadau’n newid megis:

  • bod eich swydd neu’r oriau yr ydych yn eu gweithio fel arfer yn newid
  • mae eich incwm gros yn uwch na’r disgwyl a gall fod yn fwy na £100,000 y flwyddyn
  • yn cael eich diswyddo
  • os ydych wedi rhoi’r gorau i astudio

Mae gwybodaeth ar gael ar y ddolen ganlynol. Newidiadau i amgylchiadau rhieni a Chynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU

Gwiriadau ail-gymhwysedd

Bob tymor byddwch yn derbyn e-bost a rhybudd yn eich cyfrif yn eich cyfarwyddo i wirio a chadarnhau eich amgylchiadau.  Os oes newidiadau, fel swydd neu gyfeiriad newydd, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth wedi’i diweddaru er mwyn i’r cyllid barhau.  Rhaid i chi hefyd gadarnhau os bydd eich amgylchiadau yn aros yr un fath.

Mae gennych 4 wythnos i ymateb i’r gwiriadau cymhwysedd hyn.  Os na fyddwch yn ymateb, bydd eich cais yn mynd i mewn i Gyfnod Esemptio Dros Dro am 8 wythnos, ac yn ystod y cyfnod hwnnw byddwch yn derbyn nodiadau atgoffa parhaus i ymateb.  Os nad oes ymateb o hyd, bydd cyllid y Cynnig Gofal Plant yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod eithrio.

Hapwiriadau 20%

Os byddwch yn cadarnhau bod eich amgylchiadau yn aros yr un fath yn dilyn gwiriadau ail-gymhwysedd, efallai y bydd eich cais yn destun hapwiriad 20%.  Mae hwn yn sampl ar hap.  Os cewch eich dewis, byddwch yn derbyn e-bost a rhybudd i’ch cyfrif yn eich cyfarwyddo i lanlwytho tystiolaeth lawn.

Mae gennych 4 wythnos i ymateb i’r hapwiriad hwn.  Os na fyddwch yn ymateb, bydd eich cais yn mynd i mewn i Gyfnod Esemptio Dros Dro am 8 wythnos, ac yn ystod y cyfnod hwnnw byddwch yn derbyn nodiadau atgoffa parhaus i ymateb.  Os nad oes ymateb o hyd, bydd cyllid y Cynnig Gofal Plant yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod eithrio.

Mae’n hanfodol eich bod yn ymateb i’r ail-gymhwysedd a’r hapwiriadau hyn er mwyn osgoi tynnu’ch cyllid yn ôl.

 

Dilynwch ni

Facebook