Fel darparwr gofal plant ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, gallwch chi gynnig lleoliadau gofal plant wedi’u hariannu drwy’r rhaglen Dechrau’n Deg, y cynllun Lleoedd a Gynorthwyir, Addysg y Blynyddoedd Cynnar, neu Gynnig Gofal Plant Cymru.
Ar gyfer lleoliadau trwy’r rhaglen Dechrau’n Deg neu’r cynllun Lleoedd a Gynorthwyir:
Ar gyfer lleoliadau Addysg y Blynyddoedd Cynnar:
Ar gyfer lleoliadau’r Cynnig Gofal Plant:
Mae’r amserlen ffurflenni Lleoli Plentyn Unigol a dyddiadau talu yn amlinellu’r dyddiadau talu ar gyfer y 12 mis nesaf a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflen Lleoli Plentyn Unigol newydd er mwyn bodloni pob dyddiad talu.
Mae’r cyfraddau talu, sut mae pob lleoliad yn cael ei gadarnhau a phwy fydd yn anfon y taliad atoch chi ar gyfer pob ffrwd ariannu wedi eu hamlinellu yn y tabl canlynol:
Lleoliadau gofal plant | |||
Ffrwd ariannu | Cyfradd dalu | Sut mae’r lleoliad yn cael ei gadarnhau | Pwy fydd yn anfon y taliad atoch chi |
Dechrau’n Deg/ Allgymorth Dechrau’n Deg | £16.00 fesul sesiwn 2.5 awr | Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar y Cyngor | Bob mis gan Wasanaeth Blynyddoedd Cynnar y Cyngor (gweler yr amserlen dalu) |
Lleoliadau a Gynorthwyir | £16.00 fesul sesiwn 2.5 awr | Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar y Cyngor | Bob mis gan Wasanaeth Blynyddoedd Cynnar y Cyngor (gweler yr amserlen dalu) |
Addysg y Blynyddoedd Cynnar | £650 y tymor | Cais drwy system Derbyn i Ysgolion y Cyngor | Bob mis gan Wasanaeth Cyllid Addysg y Cyngor |
Cynnig Gofal Plant | £5.00 yr awr | Llywodraeth Cymru – Cyfrif Porth y Llywodraeth | Yn wythnosol gan Lywodraeth Cymru ar ôl i chi gyflwyno eich cais |
Mae’n bosibl y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai plant sy’n manteisio ar leoliad gofal plant sy’n cael ei ariannu drwy’r rhaglen Dechrau’n Deg, y cynllun Lleoedd a Gynorthwyir, Addysg y Blynyddoedd Cynnar neu’r Cynnig Gofal Plant yn ystod eu cyfnod yn y lleoliad. Mae’r cymorth ychwanegol hwn yn golygu bod angen mwy o staff arnyn nhw er mwyn rhoi cymorth iddyn nhw, a’r enw rydyn ni’n ei roi ar hyn yw ‘darpariaeth wedi’i chyfoethogi’.
Mae penderfyniadau ynghylch darpariaeth wedi’i chyfoethogi ar gyfer plentyn, a lefel y cymorth sydd ei angen arno, yn cael eu gwneud gan y Panel Anghenion Datblygol.
Mae’r rhieni, gyda chymorth eu Gweithiwr Blynyddoedd Cynnar, yn gweithio gyda’i gilydd i ddod o hyd i ddarparwr gofal plant addas sy’n gallu rhoi cymorth i’r plentyn. Os bydd gofyn i chi ddarparu lleoliad o’r fath, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o’ch gallu i ddiwallu anghenion y plentyn a chyflwyno ffurflen Lleoli Plentyn Unigol.
Mae’r tabl isod yn amlinellu’r cyfraddau talu yn seiliedig ar lefel y cymorth sydd ei angen ar y plentyn yn ôl yr hyn sydd wedi’i nodi.
Darpariaeth wedi’i chyfoethogi | ||
Anghenion y plentyn | Cyfradd fesul sesiwn
(ar gyfer Dechrau’n Deg, Lleoedd a Gynorthwyir ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar) |
Cyfradd fesul awr y Cynnig Gofal Plant |
Lleoliad arbenigol | Lleoliad dan gontract penodol | Ddim yn berthnasol |
Cymhleth, e.e. symudedd | £35.00 | £14.00 |
Uwch | £28.00 | £10.50 |
Canolig | £17.50 | £7.00 |
Is | £10.50 | £3.50 |
Dilynwch ni