Mae’r cynllun Lleoedd a Gynorthwyir yn darparu cyllid i gynorthwyo plentyn, nad yw’n byw o fewn ardal Dechrau’n Deg a sydd ag anghenion datblygu sy’n dod i’r amlwg, drwy ddarparu gofal plant o ansawdd da am y tymor, neu ddau dymor, cyn cael lleoliad addysg y blynyddoedd cynnar. Mae cyllid yn cynorthwyo plant mewn lleoliadau gofal plant cofrestredig sydd wedi’u contractio gyda ni i ddarparu’r Lleoedd a Gynorthwyir.
Bydd plentyn yn cael uchafswm o bum sesiwn 2.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig.
Diben y lleoliad yw nodi unrhyw anghenion cyn i’r plentyn ddechrau mewn lleoliad Addysg y Blynyddoedd Cynnar. Bydd targedau a strategaethau ar waith i lywio’r lleoliad sy’n caniatáu i ni ddarparu cymorth priodol i’r plentyn. Mae’r targedau a’r strategaethau hyn yn cael eu rhannu â’r rhieni a’r lleoliad gofal plant cyn dechrau a’u hadolygu drwy gydol y lleoliad.
Ar ddiwedd y cyfnod yn y lleoliad, bydd cyfarfod pontio lle gall rhieni, y lleoliad gofal plant, darparwr addysg y blynyddoedd cynnar a phawb arall sy’n ymwneud â chynorthwyo’r plentyn rannu’r wybodaeth ddiweddaraf i gynllunio’r cyfnod pontio i Addysg y Blynyddoedd Cynnar.
Mae Lleoedd a Gynorthwyir wedi’u targedu at blant ag anghenion datblygu sy’n dod i’r amlwg sydd, fel arfer, yn cael cymorth gan dimau Portage neu Ymuno a Chwarae. Os yw plentyn yn cael cymorth gan unrhyw un o’r timau hyn, os yw’n briodol, bydd gweithiwr y Blynyddoedd Cynnar yn gofyn am Le a Gynorthwyir. Gan weithio gyda rhieni, bydd gwybodaeth yn cael ei chasglu gan yr holl weithwyr proffesiynol i sicrhau bod pawb dan sylw yn cytuno ar benderfyniad gwybodus.
Bydd ceisiadau am Le a Gynorthwyir yn cael eu trafod mewn cyfarfod ‘Beth Sy’n Bwysig’. Mae’r holl weithwyr proffesiynol allweddol sy’n ymwneud â’r teulu yn mynd i’r cyfarfod hwn. Os oes cytundeb bod Lle a Gynorthwyir yn briodol, byddan nhw’n cytuno ar dargedau a strategaethau ar gyfer y plentyn a neilltuo Gweithiwr y Blynyddoedd Cynnar i weithio gyda’r teulu. Mae’r teulu a Gweithiwr y Blynyddoedd Cynnar yn cael gwybod am ganlyniad y cyfarfod Beth sy’n Bwysig drwy e-bost.
Mae’r teulu’n gyfrifol am ddod o hyd i ddarparwr gofal plant cymeradwy Lleoedd a Gynorthwyir addas a threfnu’r lleoliad, gyda chymorth eu Gweithiwr y Blynyddoedd Cynnar penodedig. Bydd y teulu neu Weithiwr y Blynyddoedd Cynnar yn darparu Proffil Un Dudalen i’r lleoliad gofal plant, wedi’i lenwi’n rhannol, sy’n cynnwys y targedau a’r strategaethau o dan y penawdau ‘Gyda beth mae angen ychydig o help arna i?’ a ‘Sut allwch chi fy helpu?’. Byddai’r wybodaeth hon wedi’i chytuno yn y cyfarfod Beth sy’n Bwysig ac mae’n helpu llywio anghenion y lleoliad.
Mae gofal plant wedi’i ariannu dim ond ar gael mewn lleoliadau gofal plant cymeradwy sydd wedi’u contractio i gynnig Lleoedd a Gynorthwyir.
Felly, mae’n bwysig bod eich adnoddau Dewis yn gywir ac wedi’u diweddaru. Os ydych chi’n ddarparwr Lleoedd a Gynorthwyir cymeradwy, byddwn ni’n ychwanegu’r hashnod #CBSCLleoeddaGynorthwyir i’ch disgrifiad adnoddau Dewis. Peidiwch â chael gwared ar hwn neu ni fydd eich adnodd yn ymddangos ar y rhestr. Gallwch chi fewngofnodi i ddiweddaru Dewis yma.
Unwaith y bydd y lleoliad wedi’i gytuno gyda’r teulu, rhaid i chi lenwi gweddill y Proffil Un Dudalen a rhoi copi i’r teulu.
Yna, mae angen i chi gyflwyno Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol. Bydd y ffurflen hon i roi gwybod i ni am y trefniadau sydd wedi’u gwneud er mwyn i ni allau trefnu i’r cyllid ddechrau. Mae’n bwysig eich bod chi’n llenwi’r ffurflen hon gyda’r teulu’n bresennol i sicrhau bod y ddau barti yn deall y gofynion yn glir.
Ni all y cyllid ddechrau nes bydd y Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol wedi’i chymeradwyo a’r dyddiad dechrau, dyddiad gorffen a’r oriau wedi’u hariannu wedi’u cadarnhau. Byddwch chi a’r darparwr gofal plant yn cael e-bost i gadarnhau hyn.
Nod Hwb y Blynyddoedd Cynnar yw prosesu eich Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol o fewn 10 diwrnod gwaith, ond, gall gymryd hirach mewn cyfnodau prysur. Os yw’r ffurflen yn anghyflawn, gall hyn hefyd oedi’r broses.
Bydd y Tîm Cynghori Gofal Plant hefyd yn cael gwybod am y lleoliad a bydd cynghorydd yn cysylltu â chi a Gweithiwr y Blynyddoedd Cynnar i gynorthwyo’r lleoliad. Bydd yr Ymgynghorydd Gofal Plant yn defnyddio’r Proffil Un Dudalen i gynnal adolygiad hanner ffordd drwy’r lleoliad a darparu mewnwelediad yn y cyfarfod pontio ar ddiwedd y lleoliad.
! | Mae’r cytundeb contractiol i ddarparu gofal plant rhwng y rhieni/gwarcheidwaid a’r darparwr gofal plant, a dylai gael ei orfodi’n gyfreithiol trwy lofnodi cytundeb lleoliad rhwng y rhieni/gwarcheidwaid a’r darparwr gofal plant o’u dewis. |
I gael mynediad at y Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol, rhaid i chi fewngofnodi i’ch cyfrif Cyswllt Caerffili.
Bydd manylion mewngofnodi yn cael eu hanfon atoch chi drwy e-bost. Os oes gennych chi unrhyw broblemau mewngofnodi, cysylltwch â Hwb y Blynyddoedd Cynnar.
Os ydych chi’n llenwi Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol yn rhannol, gallwch chi gael mynediad ati’n hwyrach drwy fewngofnodi i ddangosfwrdd Cyswllt Caerffili yma. Yma, gallwch chi gael mynediad at ffurflenni lleoli plentyn unigol wedi’u cyflwyno, (sef ceisiadau am wasanaeth) ac unrhyw ffurflenni draft (ffurflenni heb eu cyflwyno).
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os oes angen cymorth arnoch chi, cysylltwch â Hwb y Blynyddoedd Cynnar. gofal plant – gwybodaeth i ddarparwyr gofal plant
Dilynwch ni