Cefnogaeth i ddarparwyr gofal plant

Eich helpu i sicrhau busnes gofal plant iach a chynaliadwy

Cefnogaeth i ddarparwyr gofal plant

Gall Tîm y Blynyddoedd Cynnar yng Nghaerffili helpu eich busnes i oresgyn y rhwystrau niferus y gallwch eu hwynebu a’ch helpu i redeg busnes gofal plant llwyddiannus.

Os ydych yn meddwl am sefydlu busnes gofal plant newydd neu ddatblygu un sy’n bodoli’n barod, gallwn gynnig cefnogaeth amrywiol i’ch helpu i sicrhau bod eich darpariaeth gofal plant yn iach a chynaliadwy.

Os ydych wedi sefydlu unrhyw un o’r busnesau a ganlyn, neu os ydych yn meddwl am wneud, gallwn gynnig cefnogaeth: –

  • Meithrinfeydd dydd
  • Clybiau ar ôl ysgol
  • Clybiau gwyliau
  • Grŵp chwarae/gofal cofleidiol
  • Cylch Meithrin
  • Clwb Meithrin
  • Clwb Gwyliau
  • Clwb Carco
  • Gwarchod plant

Sut allwn ni eich helpu chi

Gallwn gynnig gwybodaeth a chyngor ymarferol ar bob agwedd ar redeg eich busnes, gan gynnwys: –

  • Cymwysterau gofynnol
  • Strwythur cyfreithiol eich busnes
  • Cynllunio busnes
  • Cyllidebau a llif arian
  • Cyllid sydd ar gael (to set up new childcare businesses and expand existing businesses)
  • Marchnata
  • Recriwtio
  • Cofrestriadau ac amrywiadau gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
  • Polisïau a gweithdrefnau
  • Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus
  • Gwybodaeth am ymarfer da
  • Cynlluniau ansawdd

Yn ogystal â’r gefnogaeth busnes y gall Tîm Blynyddoedd Cynnar Caerffili ei gynnig, gall Tîm Adnewyddu Menter Busnes y Cyngor ddarparu cyngor manwl ac arweiniad i fusnesau newydd a rhai sy’n bodoli’n barod wedi’i deilwra ar gyfer eu hanghenion unigol. Gall y tîm hefyd eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau partner a gwasanaethau cefnogi sydd â gwybodaeth arbenigol am bob agwedd ar fusnes gan gynnwys Busnes Cymru.

Cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Rhaid i bob lleoliad gofal plant sy’n gofalu am blant dan 12 oed ac sy’n gweithredu am fwy na dwy awr y dydd fod wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae’r broses gofrestru yn bodoli er mwyn hybu ansawdd a diogelu plant, gan sicrhau eu bod yn derbyn gofal mewn amgylchiadau diogel ac addas. Rhaid i leoliad gofal plant fodloni Safonau Gofynnol Cenedlaethol AGC cyn y gellir ei gofrestru.

Adnoddau ar-lein eraill i ddarparwyr gofal plant

Mae pob un o’r sefydliadau isod yn cynnig cefnogaeth gynhwysfawr ac arweiniad i’w haelodau.

  • Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd | NDNA – gall ddarparu cymorth, cefnogaeth ac arweiniad ar sefydlu meithrinfa ac mae ganddi wefan gynhwysfawr â gwybodaeth ddefnyddiol am bolisïau, gweithdrefnau ac ymarfer da.
  • Cymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar | PACEY Cymru yw’r Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar. Gall gynorthwyo pawb sy’n ymwneud â gofal plant ac addysg gynnar i ddarparu gwasanaethau, gwybodaeth a chyngor o safon uchel.
  • Clybiau Plant Cymru – y sefydliad cenedlaethol sy’n helpu i sefydlu, datblygu a chefnogi clybiau Gofal Plant y Tu Allan i Oriau Ysgol ledled Cymru.
  • Blynyddoedd Cynnar Cymru | gwasanaethau aelodaeth i’r sector Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru Eu prif nod yw gwella datblygiad plant cyn ysgol yng Nghymru drwy annog rhieni i ddeall a darparu ar gyfer eu hanghenion drwy ddarpariaeth a gofal plant cyn ysgol o safon uchel.
  • Menter Caerffili – Menter Iaith Nod Menter Iaith Caerffili yw hybu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, drwy sicrhau bod yr iaith yn dod yn rhan ganolog o fywyd yn y sir a bod cymunedau’n rhannu’r cyfrifoldeb am ei dyfodol a’i datblygiad. Mae’n cefnogi cynlluniau gofal plant cyn ysgol, ar ôl ysgol, yn ystod gwyliau’r haf a chynlluniau gofal cofleidiol drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mudiad Meithrin – mudiad gwirfoddol sy’n arbenigo mewn darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar. Ei nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru elwa o wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Chwarae Cymru – Gweithio i godi ymwybyddiaeth o angen a hawl plant a phobl ifanc i chwarae a hybu ymarfer da ar bob lefel wrth wneud penderfyniadau, ac ym mhob man lle gallai plant chwarae. Mae’n darparu cyngor ac arweiniad i gefnogi pawb sydd â diddordeb neu gyfrifoldeb am ddarparu ar gyfer chwarae plant, fel y bydd Cymru rhyw ddiwrnod yn fan lle byddwn i gyd yn cydnabod ac yn darparu’n dda ar gyfer anghenion chwarae pob plentyn.
 

Dilynwch ni

Facebook