Os ydych chi’n darparu Gofal Plant Dechrau’n Deg, Lleoedd a Gynorthwyir, Lleoedd a Gefnogir, neu gymorth ychwanegol i blant sy’n manteisio ar le gofal plant sy’n cael ei ariannu gan y Blynyddoedd Cynnar (e.e. Dechrau’n Deg neu Addysg y Blynyddoedd Cynnar), bydd taliadau’n cael eu gwneud yn uniongyrchol i’ch banc chi erbyn diwrnod cyntaf y mis ar gyfer gofal plant wedi’i ddarparu yn ystod y mis blaenorol.
Ni all yr ariannu ddechrau nes byddwn ni wedi cymeradwyo’r ffurflen Lleoli Plentyn Unigol a chadarnhau Dyddiad Dechrau a Dyddiad Gorffen yr ariannu a’r Oriau a fydd yn cael eu hariannu. Byddwch chi a’r rhiant yn cael e-bost i gadarnhau hyn. Gall rhieni fanteisio ar ofal plant tra’u bod nhw’n aros i’w cais a/neu eu ffurflen Lleoli Plentyn Unigol gael eu prosesu, ond rhaid iddyn nhw dalu am hyn eu hunain. Nid yw taliadau gofal plant y Blynyddoedd Cynnar yn cael eu hôl-ddyddio.
Mae’r tabl isod yn dangos yr amserlen dalu ar gyfer y 12 mis nesaf a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol (ICP) newydd i gwrdd â’r dyddiad talu nesaf. Mae’n bwysig, unwaith y byddwch wedi cytuno i ddarparu lleoliad, eich bod chi’n cyflwyno ICP ar unwaith er mwyn osgoi unrhyw oedi wrth gael eich taliad chi
Cyflwynwch unrhyw ffurflenni Lleoli Plentyn Unigol newydd ar gyfer y tymor canlynol cyn diwedd y tymor presennol i ganiatáu amser i dîm Hwb y Blynyddoedd Cynnar baratoi eich cofrestr.
Dilynwch ni