NODWCH: Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn lansio ei wasanaeth digidol cenedlaethol newydd yn yr hydref. Os ydych chi’n darparu’r Cynnig, mae rhai pethau y bydd angen i chi eu gwneud i baratoi. Rhagor o wybodaeth… |
Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu 30 awr yr wythnos o ofal plant ac addysg gynnar wedi’i hariannu am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae ar gael i rieni cymwys sy’n gweithio ac sydd â phlant tair i bedair oed.
Mae’r cynnig ar gael o’r tymor ar ôl trydydd pen-blwydd plentyn tan y mis Medi ar ôl iddo gael ei ben-blwydd yn bedair.
Nid oes angen i ddarparwyr gofal plant ddarparu elfennau addysg gynnar a gofal plant y cynnig. Bydd rhai plant yn dal i gael mynediad at addysg gynnar mewn lleoliadau a gynhelir (dosbarthiadau meithrin mewn ysgolion).
Edrychwch ar adran Y Cynnig Gofal Plant – Gwybodaeth i rieni i gael manylion ynglŷn â chymhwystra a sut i ymgeisio.
Cyfeiriwch at ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru: Gofal i blant 3 a 4 oed: canllawiau polisi ar gyfer darparwyr | LLYW.CYMRU
Cyfrifoldeb y rhiant yw dweud wrthym ni ac wrthych chi, ei ddarparwr gofal plant, os bydd ei amgylchiadau’n newid, a allai olygu nad yw’n gymwys i dderbyn cyllid mwyach. Mae’r manylion a’r ffurflen hysbysu i’w gweld yn yr adran Cynnig Gofal Plant Cymru – Gwybodaeth i rieni.
I gofrestru fel darparwr y Cynnig Gofal Plant, rhaid i chi fod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Ar ôl cofrestru, llenwch ein ffurflen gais ar-lein a’r Ffurflen Cofnod DBS isod.
Dychwelwch ffurflenni wedi’u llenwi i CynnigGofalPlant@caerffili.gov.uk.
Ar ôl i ni dderbyn eich cais, bydd Swyddog Datblygu Gofal Plant yn cysylltu â chi â rhagor a fanylion ac yn eich helpu i gwblhau ein Cytundeb Cyllid.
I gael rhagor o fanylion edrychwch ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparwyr.
Dilynwch ni