Mae Tîm Blynyddoedd Cynnar Caerffili yn cynnig nifer o raglenni a chyrsiau rhianta i’ch cynorthwyo chi fel rhiant. Mae pob un yn canolbwyntio ar sgiliau a thechnegau i gryfhau perthnasoedd teuluol a chydnerthedd teuluol a lleihau nifer yr achosion o deuluoedd yn chwalu.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn bresennol neu os hoffech chi gael gwybod rhagor, siaradwch â’ch bydwraig neu ymwelydd iechyd chi neu gysylltu â ni.
Mae llawer i feddwl amdano cyn beichiogi. Mae llawer o wybodaeth ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, o wybodaeth am y cyfnod cyn beichiogi i gyfnod y beichiogrwydd ac ymlaen at fwydo’ch baban yn y chwe mis cyntaf a’r cymorth sydd ar gael ganddynt Beichiog / Babi Newydd.
Rhaglen 8 wythnos yw Dechreuadau Disglair sydd ar gael am ddim, i gefnogi rhieni newydd yn ystod y misoedd cynnar.
Bydd rhieni yn derbyn cefnogaeth, gwybodaeth a cyngor ar amrywiaeth o pynicau megys bwydo, cynnydd datblygiadol, diogelwch yn y cartref, iechyd & lles a tylino babi.
Cwrs hwyl, rhyngweithiol ac AM DDIM yw ‘Dewch i siarad â’ch babi’ i bob teulu sydd â babanod rhwng 3-12 mis.
Mae hon yn rhaglen 10 wythnos sy’n archwilio pynciau fel deall plant, ymchwilio i deimladau, arddulliau rhianta, cyfathrebu – beth sy’n cael ei gyfleu trwy ymddygiad, patrymau cwsg, ac anawsterau ymddygiadol.
Rhaglen rhianta cadarnhaol deg wythnos o hyd yw hon sy’n helpu i gynorthwyo rhieni wrth ddatblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-dyb, disgwyliadau priodol, empathi, a disgyblu cadarnhaol.
Rhaglen un i un yw hon sy’n helpu i adnabod camau datblygiad eich plentyn a’r ffordd orau ichi gynorthwyo â datblygu ei sgiliau fel rhiant. Mae’r rhaglen yn cydnabod y rôl bwysig sydd gan rieni.
Mae CAMAU yn eich cynorthwyo chi i wireddu eich gwir botensial. Mae’r rhaglen yn hybu magu hyder a hunan-barch ac yn eich cynorthwyo chi i osod nodau ystyrlon a chyraeddadwy yn eich bywyd.
Mae cwrs Circle of Security Parenting yn rhaglen wyth wythnos i gynorthwyo rhieni a gofalwyr i feithrin a chynnal perthnasoedd diogel gyda’u plant.
Mae cyrsiau rhianta ar-lein yn ffordd wych o gael cyngor a dysgu sgiliau newydd yng nghysur eich cartref eich hun ar adegau sy’n gyfleus i chi. Mae’r cyrsiau ar y dudalen hon yn llawn technegau a syniadau defnyddiol a fydd yn eich helpu chi i ddod yn rhiant mwy hyderus a hapus.
Dilynwch ni