Rhaglen magu plant y Solihull Approach: ‘Deall ymddygiad eich plentyn’

Rhaglen magu plant y Solihull Approach: ‘Deall ymddygiad eich plentyn’

Mae hon yn rhaglen deg sesiwn ar gyfer rhieni a theuluoedd plant rhwng 6 mis oed a 18 oed. Mae’n ymdrin â phynciau sy’n helpu i ddarparu dealltwriaeth o ymddygiad eich plentyn.

Mae’r sesiynau’n cynnwys y canlynol:

  • Y modd yr ydych chi a’ch plentyn yn teimlo
  • Tiwnio i mewn i ddatblygiad eich plentyn
  • Ymateb i deimladau eich plentyn
  • Dulliau gwahanol o fagu plant
  • Cael hwyl gyda’ch gilydd
  • Rhythm rhyngweithio a chwsg
  • Hunanreolaeth a dicter
  • Sut i wella pan fydd pethau’n mynd o chwith

Diddordeb mewn cymryd rhan?

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu neu os hoffech chi gael gwybod rhagor, siaradwch â’ch Bydwraig, Ymwelydd Iechyd neu gysylltu â ni.

 

Dilynwch ni

Facebook