Mae’r Circle of Security Parenting yn gwrs wyth wythnos a gynlluniwyd i roi offer ymarferol i rieni a gofalyddion i’w galluogi i ddatblygu a meithrin perthnasoedd ymlyniad diogel â’u plant. Mae’r Circle of Security, sy’n seiliedig ar flynyddoedd o ddamcaniaeth ymlyniad ac ymchwil i ymlyniad, yn cynorthwyo rhieni i nodi anghenion eu plant, ac ymateb iddynt.
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer rhieni a gofalyddion. Mae hwyluswyr yn darparu amgylchedd cefnogol a chynnes i rieni archwilio eu perthynas â’u plant mewn lleoliad anfeirniadol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu neu os hoffech chi gael gwybod rhagor, siaradwch â’ch Bydwraig, Ymwelydd Iechyd neu gysylltu â ni.
Dilynwch ni