Mae chwarae yn hanfodol ar gyfer datblygiad plentyn ac yn rhan bwysig o’r broses dysgu. Mae ymyriadau seiliedig ar chwarae wedi’u cynllunio i wella datblygiad emosiynol-gymdeithasol, corfforol, ieithyddol a gwybyddol y plentyn trwy chwarae rhyngweithiol dan arweiniad.
Mae Ymuno a Chwarae yn ymyriad chwarae penodol sy’n cael ei ddarparu gan dîm Blynyddoedd Cynnar Caerffili.
Mae wedi’i anelu at:
Mae’r sesiynau yn cynnwys gweithiwr Ymuno a Chwarae yn cynorthwyo’r teulu a’r plentyn trwy weithgareddau seiliedig ar chwarae sydd wedi’u teilwra yn benodol i ddiwallu anghenion y plentyn. Maen nhw’n darparu technegau a chyngor chwarae y mae modd eu defnyddio gartref i hybu datblygiad y plentyn ymhellach.
Mae’r sesiwn hwn yn cynnwys sgwrs ‘Yr hyn sy’n bwysig’ gyda’r teulu i ddarganfod yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw ac unrhyw broblemau a allai fod ganddyn nhw er mwyn bod modd cynnig y cymorth cywir.
Gall sesiynau gael eu cynnal wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy alwad fideo.
Rhaid gwneud ceisiadau am gymorth i dîm y Blynyddoedd Cynnar, naill ai ar-lein neu drwy ffonio.
Am fanylion, ewch i’n tudalen we ‘Gofyn am gymorth gan y Blynyddoedd Cynnar’.
Yna, bydd gweithiwr cymorth yn cysylltu â chi i drafod eich pryderon fel bod modd cynnig y cymorth mwyaf priodol.
Dilynwch ni