Y Rhwydwaith Rhieni

Y Rhwydwaith Rhieni

Mae’r Rhwydwaith Rhieni yn darparu cymorth i rieni ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i gael llais mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu teuluoedd.

Gall rhieni gymryd rhan mewn grwpiau cynllunio lleol i helpu llunio gwasanaethau a pholisïau lleol ar gyfer teuluoedd, plant a phobl ifanc.

Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd i rieni ddod at ei gilydd, rhannu profiadau, a chael cymorth. Mae’r grwpiau hyn yn darparu cymorth gan gymheiriaid, helpu meithrin hyder, creu perthnasoedd iach a chysylltu rhieni â gwasanaethau ychwanegol yn ôl yr angen.

Mae’r Rhwydwaith Rhieni hefyd yn helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall safbwyntiau rhieni o ran materion pwysig.

Grwpiau

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau at ddant pawb, gan gynnwys gwnïo, crefft siwgr, grwpiau rhieni a thwdlod (gan gynnwys sesiynau cyfrwng Cymraeg) a chyfleoedd i gyfrannu at ein rhandir.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â grŵp, edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ffonio ni yn ystod oriau swyddfa i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Grŵp Gofal gan Berthnasau

Rydyn ni’n cynnal grŵp cymorth misol ar gyfer yr holl Ofalwyr sy’n Berthnasau yn y Fwrdeistref Sirol. Mae’r sesiwn am ddim hon yn cynnwys lluniaeth ac mae’n darparu lle i feithrin cyfeillgarwch, cael gwybodaeth ac arweiniad a dysgu am ddigwyddiadau a gweithgareddau perthnasol.

Hyrwyddwyr Rhieni

Mae’r rhaglen Hyrwyddwyr Rhieni yn seiliedig ar y syniad mai rhieni sydd yn y sefyllfa orau i rannu gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael a helpu’r gymuned i gael mynediad atyn nhw. Mae ein hyrwyddwyr, sy’n aelodau dibynadwy lleol o’r gymuned, yn cael hyfforddiant i rannu gwybodaeth yn hyderus am wasanaethau a digwyddiadau’r blynyddoedd cynnar. Maen nhw’n ymgysylltu ag unigolion a grwpiau, gan rannu profiadau cadarnhaol â gwasanaethau lleol a chyfeirio pobl at adnoddau perthnasol.

Mae hyrwyddwyr yn cael hyfforddiant, cymorth a gwobrau trwy gynllun credyd, sy’n gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer diwrnodau allan i’r teulu, tocynnau sinema a mwy. Maen nhw’n cofnodi eu rhyngweithio i helpu ein cydlynydd olrhain y gwaith sy’n cael ei wneud. Mae bod yn hyrwyddwr yn ffordd werth chweil o wneud gwahaniaeth, ennill sgiliau newydd a meithrin cyfeillgarwch.

Gall unrhyw un ymuno â’n rhaglen Hyrwyddwr Rhieni. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01443 875444 yn ystod oriau swyddfa neu e-bostio ein cydlynydd, Leann, yn leannec.PN@gmail.com.

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â grŵp, ffoniwch 01443 875444 neu e-bostio admin@patentcaer.org.uk yn ystod oriau swyddfa.

Gallwch chi hefyd ddilyn The Parent Network ar Facebook, Instagram a Tik Tok i gael yr wybodaeth ddiweddaraf. Yn ogystal, gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth ar eu hysbysfwrdd Padlet yma.

Cyswllt Rhieni Cymru

Prosiect yw Cyswllt Rhieni Cymru sy’n ymwneud â grymuso llais rheni a gofalwyr i hybu hawliau plant. Visit their website to find out more and to get involved.

Visit the Parenting Connect Wales Hub

 

Dilynwch ni

Facebook