Rhaglen Annog Rhieni

Rhaglen Annog Rhieni

Mae’r Rhaglen Meithrin Rhieni yn rhaglen 10 sesiwn i rieni a’u teuluoedd.

Nod y rhaglen yw helpu rhieni a’u teuluoedd i ddeall a rheoli teimladau ac ymddygiad wrth ddod yn fwy cadarnhaol a meithringar yn eu perthynas â’u plant ac â’i gilydd.

Sesiynau yn cynnwys

  • Y cwestiwn yn ymwneud â disgyblaeth
  • Arddulliau magu plant a rheolau’r teulu
  • Pŵer personol a hunanbarch, a dewis a chanlyniadau
  • Teimladau, a’r hyn yr ydym yn ei wneud â nhw; cyfathrebu’n glir
  • Mathau o gyffwrdd a meithrin ein hunain
  • Oedran a chyfnodau yn natblygiad plant
  • Cadw plant yn ddiogel
  • Ymddygiad i’w anwybyddu; datrys problemau a thrafod

Diddordeb mewn cymryd rhan?

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu neu os hoffech chi gael gwybod rhagor, siaradwch â’ch Bydwraig, Ymwelydd Iechyd neu gysylltu â ni.

 

Dilynwch ni

Facebook