Dewch i siarad â’ch babi

Dewch i siarad â’ch babi

Rhaglen 8 wythnos llawn hwyl, diddorol ac AM DDIM i blant rhwng 3 a 12 mis ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yw ‘Dewch i siarad â’ch babi’. Mae’n cael ei redeg gan Dîm Iaith Gynnar Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) ar y cyd ag ELKLAN. Mae pob sesiwn wythnosol yn cynnig amser penodol i ymgysylltu a chwarae gyda’ch gilydd, wrth gael awgrymiadau da o ran cynorthwyo datblygu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu babanod, nawr ac wrth iddyn nhw dyfu.

Gall teuluoedd gofrestru’n uniongyrchol ac mae’r prosiect yn ceisio cynnig grŵp mor lleol â phosibl.

Mae pynciau’n cynnwys:

  • Dewch i edrych
  • Dewch i deimlo
  • Dewch i wylio
  • Dewch i wneud sŵn
  • Dewch i sblasio
  • Dewch i gymryd tro bob yn ail
  • Dewch i symud
  • Dewch i ymlacio

Diddordeb mewn cymryd rhan?

Os hoffech chi fynychu’r hyfforddiant hwn, cofrestrwch yma.

I drafod ymhellach, cysylltwch â ni ar 07415 342143 / 07415 348967 neu e-bost lets-talk@gavo.org.uk.

 

Dilynwch ni

Facebook