CAMAU

CAMAU

Mae’n rhaglen 11 wythnos a grëwyd gan Pacific Institute ac a gynlluniwyd i’ch helpu i ddatgloi eich potensial trwy eich annog i edrych o’r newydd ar eich bywyd.

Mae’n eich helpu i weld faint y gallwch ei gyflawni mewn gwirionedd, ac mae’n cynnig offer i’ch helpu i wireddu hynny. Mae’n eich galluogi i sylweddoli bod bywyd yn llawn cyfleoedd ac yn dangos y modd y gallwch fanteisio ar y cyfleoedd hyn yn hyderus.

Mae’r sesiynau’n cynnwys y canlynol

  • Beth ydym yn ei hepgor?
  • Beth yw’r gwirionedd?
  • Credu trwy weld
  • Y modd y mae ein meddyliau yn gweithio
  • Ar bwy yr ydych yn gwrando?
  • Pwysigrwydd hunan-barch
  • Am beth yr ydych yn meddwl?
  • Mentro i feysydd anghyfarwydd
  • Mater mewnol yw cymhelliant
  • Deall newid
  • Gosod nodau a chreu eich dyfodol

Diddordeb mewn cymryd rhan?

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu neu os hoffech chi gael gwybod rhagor, siaradwch â’ch Bydwraig, Ymwelydd Iechyd neu gysylltu â ni.

 

Dilynwch ni

Facebook