Prosiect Play Inc

Prosiect Play Inc

Mae Play Inc yn gynllun newydd sy’n cael ei dreialu gan Wasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili. Mae’n darparu cyfleoedd chwarae wedi’u hariannu i blant cymwys yn ystod gwyliau ysgol.

Ar gyfer pwy mae’r cynllun?

  • Plant mewn ysgol gynradd, 5-11 oed, a
  • Plant wedi’u henwebu gan Weithiwr Teuluol Blynyddoedd Cynnar.

Beth sy’n cael ei ddarparu?

  • Dwy, sesiwn 6 awr yr wythnos yn ystod gwyliau’r ysgol
  • Cinio yn cael ei gynnwys.

Darperir sesiynau chwarae gan ddarparwyr gofal plant cofrestredig ym Mwrdeistref Sirol Caerffili sydd wedi’u cymeradwyo fel Lleoliad Chwarae Gwyliau Ysgol.

I gael gwybod mwy cysylltwch â’ch Gweithiwr Teuluol Blynyddoedd Cynnar neu ein Hwb Blynyddoedd Cynnar.

 

Dilynwch ni

Facebook