Cyrsiau rhianta ar-lein am ddim

Cyrsiau rhianta ar-lein am ddim

Mae cyrsiau rhianta ar-lein yn ffordd wych o gael cyngor a dysgu sgiliau newydd yng nghysur eich cartref eich hun ar adegau sy’n gyfleus i chi. Mae’r cyrsiau ar y dudalen hon yn llawn technegau a syniadau defnyddiol yr ydyn ni’n sicr y byddan nhw’n eich helpu chi i ddod yn rhiant mwy hyderus a hapus.

In Our Place

Cyrsiau ar-lein pwrpasol ar gyfer gwella iechyd a lles emosiynol rhieni, plant, pobl ifanc yn eu harddegau, oedolion, a mam-guod a thad-cuod. Mynediad am ddim at nifer o gyrsiau rhianta ar-lein am ddim.

Ewch i www.inourplace.co.uk a defnyddio’r cod GEYAP i gael mynediad AM DDIM!

OnePlusOne

Mae gan OnePlusOne dros 50 mlynedd o brofiad o greu adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gynorthwyo datblygu perthnasoedd iach.

Mae’r 3 adnodd canlynol ar gael. I gael mynediad at y cwrs, mewngofnodwch neu gofrestru yma

  • Fi, ti a’r Babi hefyd – Cwrs ar-lein i helpu cyplau i baratoi ar gyfer y cyfnod pontio i fod yn rhiant
    Mae Fi, ti a’r Babi hefyd yn helpu rhieni newydd a darpar rieni i addasu i’r newidiadau y gall bod yn rhiant eu cael ar eu perthynas, gan godi ymwybyddiaeth o effaith straen a gwrthdaro ar eu babi. Bydd rhieni sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn datblygu’r sgiliau i reoli eu gwrthdaro mewn modd mwy adeiladol. Darllenwch ragor am Fi, Ti a’r Babi hefyd
  • Dadlau’n Well – Cwrs ar-lein ar gyfer lleihau gwrthdaro rhwng rhieni
    Mae Dadlau’n Well yn helpu i godi ymwybyddiaeth o wrthdaro rhwng rhieni a’i effaith ar blant. Mae’n rhoi’r sgiliau i rieni ymdopi â straen gyda’i gilydd a rheoli eu gwrthdaro mewn modd mwy adeiladol.
  • Gwneud pethau’n iawn i blant – Cwrs ar-lein ar gyfer rhieni sy’n gwahanu i leihau effaith gwahanu ar blant
    MaeGwneud pethau’n iawn i blant yn defnyddio technegau Hyfforddiant Modelu Ymddygiad i helpu rhieni sy’n gwahanu i weld sut maen nhw’n rhoi eu plant yng nghanol eu gwrthdaro. Mae’n helpu rhieni i feithrin sgiliau cyfathrebu cadarnhaol, er mwyn iddyn nhw fagu plant yn gydweithredol a dod o hyd i atebion gyda’i gilydd.

Mae’r 2 adnodd canlynol ar gael:

  • Click – Cymorth o ran perthnasoedd gan arbenigwyr a’r gymuned
    Mae Click yn wasanaeth ar-lein unigryw sy’n darparu cymorth ymyrraeth gynnar o ran perthynasoedd. Gall unigolion, cyplau, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ddefnyddio Click i gael cymorth defnyddiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth o fan diogel, symudol-gyfeillgar. Ewch i wefan Click
  • See it differently – Sgiliau cyfathrebu i rieni, wedi’u creu ar y cyd â Good Things Foundation.Pan fydd rhieni’n dadlau, dydyn nhw ddim bob amser yn gweld sut mae’n effeithio ar eu plant. Mae’r casgliad hwn o fideos ac animeiddiadau yn helpu rhieni i weld dadleuon teuluol o safbwynt eu plant ac yn cynnig ffyrdd amgen o ddelio ag anghytundebau. Ewch i’r wefan ‘See it differently’
 

Dilynwch ni

Facebook