Rhieni fel Addysgwyr Cyntaf

Rhieni fel Addysgwyr Cyntaf

Mae PAFT yn rhaglen a ddarperir i chi a’ch plentyn yn amgylchedd y cartref, gan ganolbwyntio ar ryngweithio rhwng y rhiant a’r plentyn.

Chi yw athro cyntaf a phwysicaf eich plentyn, a bydd PAFT yn eich cynorthwyo i gynyddu eich gwybodaeth am ddatblygiad yn ystod plentyndod, a meithrin eich sgiliau a’ch hyder o fod yn rhiant.

Mae’r sesiynau’n cynnwys y canlynol

Bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i chi dreulio amser gwerthfawr gyda’ch plentyn wrth ddod yn gyfarwydd â materion megis:

  • Ymlyniad
  • Disgyblaeth
  • Iechyd
  • Maeth
  • Diogelwch
  • Cwsg
  • Arferion

Diddordeb mewn cymryd rhan?

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu neu os hoffech chi gael gwybod rhagor, siaradwch â’ch Bydwraig, Ymwelydd Iechyd neu gysylltu â ni.

 

Dilynwch ni

Facebook