Mae’r bwyd a diod sy’n cael eu cynnig mewn lleoliadau gofal plant yn chwarae rhan bwysig yn iechyd plant ac mae’n gallu helpu datblygu arferion bwyta da i’w paratoi ar gyfer y dechrau gorau mewn bywyd. Mae ymarferwyr gofal plant a lleoliadau’r blynyddoedd cynnar yn chwarae rhan bwysig wrth gyfrannu at les plant sy’n tyfu. Mae amser cael byrbrydau’n gyfle pwysig i blant ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, annibyniaeth a rhifedd.
Mae Gwobr Byrbrydau Iach Safon Aur yn cydnabod ac yn dathlu’r ddarpariaeth o fyrbrydau o safon mewn lleoliadau. Mae’r wobr wedi’i hanelu at bob darparwr gofal plant ledled Caerffili. Mae hyn yn cynnwys gwarchodwyr plant, meithrinfeydd dydd, grwpiau rhieni a phlant bach, Cylchoedd Meithrin, grwpiau Dechrau’n Deg, cylchoedd chwarae a chlybiau y tu allan i oriau ysgol. Mae ennill y wobr hon yn ffordd wych i leoliadau gofal plant ddangos eu bod nhw wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi’r plant, y teuluoedd a’r cymunedau y maen nhw’n gweithio gyda nhw i fwyta’n iach a chadw’n iach.
Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi, ers lansio’r Wobr Byrbrydau Iach Safonol Aur newydd ym mis Gorffennaf 2021, bod 31 o leoliadau gofal plant ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wedi llwyddo i fodloni’r meini prawf ac wedi cyflawni’r wobr. Rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi i gyd yn ymuno â ni i longyfarch a diolch i’r lleoliadau canlynol am eu holl waith caled nhw a’u hymroddiad nhw i ennill y wobr.
Dilynwch ni