Rhaglen Gyn-enedigol y Solihull Approach
Beth yw rhaglen Gynenedigol Solihull?
Mae grŵp Cynenedigol Solihull yn rhaglen pum wythnos ar gyfer darpar rieni a’u teuluoedd. Mae’n ymdrin â phynciau sy’n helpu i ddarparu dealltwriaeth o feichiogrwydd, esgor, rhoi genedigaeth a’ch baban. Arweinir y grŵp gan Weithwyr Cymorth i Deuluoedd gyda chefnogaeth gan Ymwelwyr Iechyd a Bydwragedd. Mae’r grŵp yn rhoi cyfle i gwrdd â darpar rieni a theuluoedd eraill mewn amgylchedd anogol.
WYTHNOS 1 – Eich helpu chi a’ch baban yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth
- Cydnabod a deall eich teimladau
- Cydnabod beth/pwy sy’n eich helpu i brosesu eich teimladau mewn perthynas â’ch baban yn ystod eich beichiogrwydd a genedigaeth
- Meddwl am y cymorth y mae ei angen yn ystod beichiogrwydd
WYTHNOS 2 – Dod i adnabod eich baban yn y groth
- Dod i adnabod eich baban a meithrin eich perthynas
- Deall ystumiau eich baban yn y groth
- Deall y modd y mae eich baban yn datblygu: yr ymennydd, datblygiad synhwyraidd a chorfforol
WYTHNOS 3 – Chi, eich baban a’r camau esgor
- Dod i adnabod eich baban yn ystod yr esgor a’r enedigaeth
Deall arwyddion esgor
Deall camau esgor
WYTHNOS 4 – Eich helpu chi a’ch baban yn ystod yr esgor a’r enedigaeth
- Deall ystumiau gweithredol genedigaeth
- Deall y broses esgor – gan gynnwys y modd y mae’r baban yn helpu
- Meddwl am gyffuriau lleddfu poen
- Meddwl am gymorth wrth esgor gartref
WYTHNOS 5 – Bwydo eich baban
- Bondio a meithrin perthynas â’ch baban
- Cadw eich baban yn ddiogel
- Y felan ac iselder ôl-enedigol
- Ffyrdd gwahanol o fwydo eich baban a’r cymorth sydd ar gael
Diddordeb mewn cymryd rhan?
Cofrestrwch ar gyfer y cyrsiau cyn-geni Solihull yma
Dilynwch ni