Deall Ymddygiad fel Math o Gyfathrebu

About the course and how to book

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy'n gweithio gyda theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn unig.

Deall Ymddygiad fel Math o Gyfathrebu

Disgrifiad o’r cwrs

Mae’r cwrs hwn yn cynnig archwilio cynhwysfawr o’r cymhellion a’r dylanwadau sylfaenol y tu ôl i ymddygiad plant, gan ddefnyddio egwyddorion y dull ‘Thrive’. Byddwch chi’n cael mewnwelediad i sut mae diwylliant, emosiynau, a datblygiad yr ymennydd yn siapio ymddygiad, a sut mae strategaethau ataliol yn gallu cael eu defnyddio i gynorthwyo newid cadarnhaol. Drwy ymarfer myfyriol ac offer ymarferol, mae’r cwrs hwn yn grymuso ymarferwyr i ymateb i ymddygiad plant gydag empathi, dealltwriaeth ac effeithiolrwydd.

Deilliannau’r cwrs

Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch chi’n gallu gwneud y canlynol:

  • Nodi’r cymhellion a’r achosion y tu ôl i ymddygiad, gan gynnwys anghenion heb eu diwallu a chyfnodau datblygiadol.
  • Archwilio rôl diwylliant a’r amgylchedd wrth lunio ymatebion a disgwyliadau ymddygiadol.
  • Deall sut mae emosiynau yn dylanwadu ar ymddygiad, a sut i helpu rheoleiddio emosiynol mewn plant.
  • Esbonio sut mae’r ymennydd yn datblygu ac yn gweithredu mewn perthynas â phatrymau ac ymatebion ymddygiad.
  • Cymhwyso’r dull ‘Thrive’ a strategaethau ataliol i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a lles emosiynol

Costau

Ddim yn berthnasol

Sesiynau

Mae’r amserlen hyfforddi bresennol ar gael yma

Gwneud cais am le

I wneud cais am le, cwblhewch ein ffurflen gais ni am hyfforddiant.

Os yw’r lle ar gael, bydd yn cael ei recordio ar Dewis a byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost.

Ymholiadau

Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.

 

Dilynwch ni

Facebook