Ymateb Graddedig y Blynyddoedd Cynnar

About the course and how to book

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy'n gweithio gyda theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn unig.

Ymateb Graddedig y Blynyddoedd Cynnar

Disgrifiad o’r cwrs

Bydd y cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am Ymateb Graddedig y Blynyddoedd Cynnar, sut mae’n cael ei gymhwyso yng ngwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar a sut i’w gymhwyso i’ch lleoliad chi. Sut i lunio cynlluniau dysgu a thracwyr cynnydd fel eu bod nhw i gyd yn cysylltu â’i gilydd i ffurfio tystiolaeth yn eich lleoliad a bod eich lleoliad yn cydymffurfio’n llawn â gofynion contract, gan gynnwys Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Byddwch chi’n dysgu am Baneli’r Blynyddoedd Cynnar a’u cylch gorchwyl nhw, ynghyd â gwybodaeth am lefelau darpariaeth uwch a pha wybodaeth a thystiolaeth y mae’n ofynnol i leoliadau ddarparu fel rhan o broses atgyfeirio at Banel y Blynyddoedd Cynnar. Bydd y cwrs hefyd yn darparu gwybodaeth am y broses Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar Unigolion Statudol.

Deilliannau

Bydd gan y cyfranogwyr y canlynol:

  • Trosolwg o Ymateb Graddedig y Blynyddoedd Cynnar.
  • Gwell dealltwriaeth o sut i gymhwyso Ymateb Graddedig y Blynyddoedd Cynnar yn eich lleoliad i sicrhau eich bod chi’n cydymffurfio’n llawn â gofynion contract, gan gynnwys Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
  • Gallu dyfeisio cynlluniau dysgu a thracwyr cynnydd sy’n eu cysylltu nhw i ffurfio tystiolaeth i sicrhau eich bod chi’n cydymffurfio’n llawn â gofynion contract, gan gynnwys Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ac yn cydymffurfio’n llawn â phroses atgyfeirio Panel y Blynyddoedd Cynnar.
  • Gwell dealltwriaeth o’r broses Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar Unigolion Statudol a chyfrifoldebau’r lleoliad yn y broses.

Cynulleidfa darged

Arweinwyr Lleoliadau/Arweinwyr Cynhwysiant

Costau

Ddim yn berthnasol

Sesiynau

Mae’r amserlen hyfforddi bresennol ar gael yma

Gwneud cais am le

I wneud cais am le, cwblhewch ein ffurflen gais ni am hyfforddiant.

Os yw’r lle ar gael, bydd yn cael ei recordio ar Dewis a byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost.

Ymholiadau

Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.

 

Dilynwch ni

Facebook