Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno ymarferwyr y blynyddoedd cynnar i’r trefniadau asesu newydd ar gyfer babanod a phlant ifanc 0-3 oed, wedi’u halinio â’r fframwaith Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ECPLC). Mae asesu yn y blynyddoedd cynnar yn offeryn hanfodol ar gyfer deall taith ddatblygiadol unigryw pob plentyn ac i gynorthwyo eu lles, ymdeimlad o berthyn, a dilyniant. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar bedwar maes datblygu allweddol: cymdeithasol ac emosiynol, corfforol, cyfathrebu ac iaith, ac archwilio a chwarae. Mae’r meysydd hyn yn dod o Lwybrau Datblygiadol ECPLC ac yn darparu sylfaen gyson ar gyfer dysgu ac asesu yn y dyfodol. Drwy strategaethau ymarferol ac ymarfer myfyriol, bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i arsylwi, asesu ac ymateb i anghenion plant mewn ffordd sy’n ystyrlon ac sy’n briodol yn ddatblygiadol.
Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd cyfranogwyr yn gallu gwneud y canlynol:
Ddim yn berthnasol
Mae’r amserlen hyfforddi bresennol ar gael yma
I wneud cais am le, cwblhewch ein ffurflen gais ni am hyfforddiant.
Os yw’r lle ar gael, bydd yn cael ei recordio ar Dewis a byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost.
Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.
Dilynwch ni