Niwroamrywiaeth yn y Blynyddoedd Cynnar a Chyfathrebu Cymdeithasol

About the course and how to book

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy'n gweithio gyda theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn unig.

Niwroamrywiaeth yn y Blynyddoedd Cynnar a Chyfathrebu Cymdeithasol

Mae gan y cwrs hwn ddau fodiwl ac mae angen cwblhau’r ddau:

Rhan 1: Niwroamrywiaeth yn y Blynyddoedd Cynnar a Gwahaniaethau Cyfathrebu Cymdeithasol.

Disgrifiad o’r cwrs

Bydd y cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth i chi am niwroamrywiaeth yn y blynyddoedd cynnar ac yn enwedig am anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD). Byddwn ni’n cymharu ac yn cyferbynnu’r tebygrwydd rhwng ADHD a Gwahaniaethau Cyfathrebu Cymdeithasol/Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig (ASD). Byddwch chi’n gwella eich dealltwriaeth o wahaniaethau cyfathrebu cymdeithasol ac awtistiaeth, a’r gwahanol ffyrdd y mae dangoswyr sy’n gysylltiedig â’r sbectrwm hwn yn ymddangos. Bydd y cwrs hefyd yn ymdrin â gwahaniaethau cyfathrebu cymdeithasol nodweddiadol/awtistiaeth, gorbryder ac awtistiaeth gweithredu lefel uchel a phroffil ymddygiad osgoi galw.

Deilliannau

Bydd gan y cyfranogwyr y canlynol:

  • Gwell dealltwriaeth o niwroamrywiaeth yn y blynyddoedd cynnar.
  • Gwell dealltwriaeth o’r tebygrwydd rhwng ADHD a gwahaniaethau cyfathrebu cymdeithasol.
  • Gwell dealltwriaeth o’r gwahanol ffyrdd y mae dangoswyr sy’n gysylltiedig â’r sbectrwm awtistig yn ymddangos, sef:
    • Gwahaniaethau cyfathrebu cymdeithasol nodweddiadol/awtistiaeth
    • Pryder ac awtistiaeth gweithredu lefel uchel
    • Proffil ymddygiad osgoi galw

Rhan 2: Deall a dadansoddi gwahaniaethau cyfathrebu cymdeithasol ac ymddygiadau pobl ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig (ASD) – cynorthwyo newid.

Disgrifiad o’r cwrs

Bydd y cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth i chi am ddeall a dadansoddi gwahaniaethau cyfathrebu cymdeithasol i gynorthwyo newid a’ch helpu chi i ddeall y neges y tu ôl i ymddygiad. Bydd yn trafod y defnydd o strategaethau ymddygiad generig wrth ymdrin ag ymddygiadau gwahaniaethau cyfathrebu cymdeithasol/ ASD. Bydd yn rhoi cipolwg i chi ar ddeall a defnyddio siartiau ABC i nodi swyddogaethau a sbardunau ymddygiad. Bydd y cwrs yn cyflwyno defnyddio asesiad swyddogaethol o ymddygiad a chreu Cynllun Ymyrraeth Ymddygiad i chi. Byddwch chi’n ymdrin â gwybodaeth am fodd ffoi, ymladd, rhewi ac yn deall sut y gall hwn effeithio ar y rhai sydd â gwahaniaethau cyfathrebu cymdeithasol. Bydd y cwrs yn awgrymu strategaethau i reoli ymddygiad cyfathrebu cymdeithasol/ASD a chael gwybodaeth am ddefnyddio dull cyffro isel.

Deilliannau

  • Byddwch chi’n gallu defnyddio siartiau ABC i ddeall y neges y tu ôl i ymddygiad a sut i ddefnyddio siartiau ABC i nodi swyddogaethau a sbardunau ymddygiadau gwahaniaethau cyfathrebu cymdeithasol/ASD.
  • Byddwch chi’n gallu creu Cynllun Ymyrraeth Ymddygiad i hybu newid ymddygiad.
  • Byddwch chi’n deall yn well sut mae’r modd ymladd, ffoi, rhewi yn effeithio ar y rhai sydd ag ymddygiadau cyfathrebu cymdeithasol/ASD.
  • Byddwch chi’n gallu defnyddio strategaethau i reoli ymddygiad cyfathrebu cymdeithasol/ASD a deall sut i ddefnyddio dull osgoi cyffro.

Cynulleidfa darged:

Holl staff lleoliadau gofal plant a gwarchodwyr plant.

Costau

Ddim yn berthnasol

Sesiynau

Mae’r amserlen hyfforddi bresennol ar gael yma

Gwneud cais am le

I wneud cais am le, cwblhewch ein ffurflen gais ni am hyfforddiant.

Os yw’r lle ar gael, bydd yn cael ei recordio ar Dewis a byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost.

Ymholiadau

Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.

 

Dilynwch ni

Facebook