Hyfforddiant i Arweinwyr Cynhwysiant

Manylion y cwrs a sut i gadw lle

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy'n gweithio gyda theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn unig.

Hyfforddiant i Arweinwyr Cynhwysiant

Disgrifiad o’r cwrs

Nod y cwrs hwn yw helpu’r Arweinwyr Cynhwysiant i gyflawni’r dyletswyddau yn hyderus o fewn eu rôl, i sicrhau bod y lleoliad yn cydymffurfio’n llawn â gofynion contractau gan gynnwys Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Bydd y cwrs yn nodi rolau a chyfrifoldebau Arweinydd Cynhwysiant a Lleoliad Gofal Plant/gwarchodwr plant a’r prosesau a’r gweithdrefnau y bydd angen i chi eu dilyn. Bydd y cwrs yn esbonio sut i ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar y person, pa waith papur sydd angen ei gwblhau gan staff yr Arweinydd Cynhwysiant/Lleoliad Gofal Plant a sut i sicrhau bod y lleoliad yn cydymffurfio ag Ymateb Graddedig y Blynyddoedd Cynnar. Sut i lunio cynlluniau dysgu a chreu tracwyr cynnydd i blant sydd ag anghenion ychwanegol yn y lleoliad. Gallu nodi strategaethau ac ymyriadau i’w defnyddio’n effeithiol i hybu dilyniant plant, yn enwedig i’r rhai sydd wedi cael darpariaeth uwch, ac i sicrhau eu bod yn cael ymyriadau sy’n “ychwanegol ac yn wahanol i” plant eraill yn y lleoliad.

Deilliannau

Bydd gan y cyfranogwyr y canlynol:

  • Hyder i gyflawni eu dyletswyddau o fewn eu rôl a’r lleoliad gofal plant i sicrhau bod y lleoliad yn cydymffurfio’n llawn â gofynion contract, gan gynnwys Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
  • Gwybodaeth glir am eu rolau a’u cyfrifoldebau nhw o fewn eu rôl a rôl staff y lleoliad.
  • Hyder i lunio cynlluniau dysgu a thracwyr cynnydd a’r gallu i gysylltu’r rhain gyda’i gilydd i ffurfio tystiolaeth o gynnydd y plentyn dros amser ac i gyflwyno ar gyfer prosesau atgyfeirio Panel y Blynyddoedd Cynnar.
  • Hyder wrth nodi strategaethau ac ymyriadau i’w defnyddio i hybu dilyniant plant.
  • Hyder i drefnu a hwyluso pontio “i mewn” ac “allan o” y lleoliadau gofal plant gan ddefnyddio’r ddogfen ganllawiau cyfarfod pontio.
  • Hyder wrth gynorthwyo rhieni drwy’r daith anghenion ychwanegol.
  • Hyder wrth ddeall y broses Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar Unigolion Statudol a’r hyn y mae disgwyl ei ddarparu fel rhan o’r broses hon o safbwynt y lleoliad.

Cynulleidfa darged

Arweinwyr Cynhwysiant/Arweinwyr Lleoliadau

Costau

Ddim yn berthnasol

Sesiynau

Mae’r amserlen hyfforddi bresennol ar gael yma

Gwneud cais am le

I wneud cais am le, cwblhewch ein ffurflen gais ni am hyfforddiant.

Os yw’r lle ar gael, bydd yn cael ei recordio ar Dewis a byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost.

Ymholiadau

Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.

 

Dilynwch ni

Facebook