Llwybrau magu plant Togetherness am ddim

Llwybrau magu plant Togetherness am ddim

Nid yw magu plant bob amser yn hawdd – p’un a ydych chi’n disgwyl eich babi cyntaf neu’n cynorthwyo plentyn yn ei arddegau drwy gyfnodau anodd.

Rydyn ni wedi ymuno â Togetherness (Dull Solihull gynt) i gynnig llwybrau am ddim, wedi’u datblygu gan y GIG i’ch helpu chi i ddeall meddwl a chorff eich plentyn wrth dyfu.

Mae’r llwybrau hyn yn cynnwys pob cam o fywyd teuluol, o feichiogrwydd i’r arddegau, a hyd yn oed eich perthnasoedd.

Mae pob lwybr ar gael ar-lein i’w cwblhau ar eich cyflymder eich hun. Mae rhai llwybrau ar gael mewn ieithoedd eraill.

Yr hyn y gallwch chi ei ddysgu

Mae Togetherness yn cynnig amrywiaeth eang o lwybrau wedi’u teilwra i oedran eich plentyn ac anghenion eich teulu. Dyma rai ohonyn nhw:

Cyn geni (beichiogrwydd) (Opsiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gael)

  • Deall beichiogrwydd, esgor, y geni a’ch babi (gan gynnwys cyplau o’r un rhyw)

Hyd at 6 mis oed

  • Deall eich babi
  • Deall eich babi cyn amser neu’ch babi sâl yn yr ysbyty
  • Deall eich babi cyn amser neu’ch babi sâl gartref

6 mis – 19 blwydd oed

  • Deall eich plentyn o blentyn bach i’r arddegau
  • Deall teimladau eich plentyn
  • Deall iechyd meddwl a lles eich plentyn
  • Deall ymennydd eich plentyn yn ei arddegau

Anghenion addysgol arbennig ac anableddau

  • Deall eich plentyn ag anghenion ychwanegol
  • Plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn symud i’r ysgol uwchradd

Llwybrau i blant yn eu harddegau

Mae llwybrau wedi’u cynllunio i helpu plant yn eu harddegau i ddeall eu hunain:

  • Deall eich ymennydd
  • Deall eich teimladau

Llwybrau i oedolion

  • Deall eich perthnasoedd
  • Deall eich trawma eich hun

Sut i fanteisio ar y llwybrau

Mae Togetherness yn rhad ac am ddim ar gyfer teuluoedd sy’n byw yng Ngwent.

I ddechrau:

  1. Ewch i LEARN – Togetherness i weld y llwybrau dysgu sydd ar gael.
  2. Defnyddiwch y cod GEYAP wrth gofrestru i fanteisio ar lwybrau am ddim.
 

Dilynwch ni

Facebook