Gofal plant i blant ag anghenion datblygiadol ychwanegol

Gofal plant i blant ag anghenion datblygiadol ychwanegol

Mae dyletswydd ar ddarparwyr gofal plant cofrestredig i ddarparu amgylchedd cynhwysol i bob plentyn.

Mae gan lawer o’r darparwyr gofal plant ym mwrdeistref sirol Caerffili gyfleusterau i ofalu am blant ag anghenion ychwanegol neu byddan nhw’n gwneud addasiadau rhesymol i’w safleoedd. Fodd bynnag, ni fydd pob lleoliad yn gallu gwneud hyn, felly os oes gennych blentyn sydd ag anghenion ychwanegol, mae’n bwysig ichi drafod hyn gydag unrhyw ddarparwr gofal plant rydych chi’n ystyried ei ddefnyddio.

Dod o hyd i ddarparwr gofal plant addas

Mae llawer o fathau o ofal plant ar gael ar draws y fwrdeistref sirol, o warchodwyr plant yn eu cartrefi a gofal plant sesiynol yn y gymuned i feithrinfeydd dydd mawr, pob un ag amrywiaeth o sgiliau a phrofiad i gynorthwyo plant ag anghenion ychwanegol.

Ewch i’n hadran Dod o hyd i ddarparwr gofal plant i chwilio am ddarparwyr yn agos i chi.

Os ydych chi eisiau trafod eich opsiynau, ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232. Bydd yn gallu eich helpu i ddod o hyd i ddarparwr gofal plant addas a all ddiwallu anghenion eich plentyn.

Sut rydym ni’n cynorthwyo darparwyr gofal plant

Mae ein tîm Blynyddoedd Cynnar yn cynorthwyo lleoliadau gofal plant i sicrhau amgylcheddau cynhwysol o ansawdd da trwy ddarparu:

  • Hyfforddiant i swyddogion arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
  • Hyfforddiant ymwybyddiaeth o ADY i weithwyr gofal plant
  • Hyfforddiant penodol ar ddeall awtistiaeth
  • Hyfforddiant ar strategaethau yn ogystal â modelu strategaethau yn y lleoliad.
  • Arsylwadau yn y lleoliad i nodi targedau datblygiadol priodol i’r plentyn ac atgyfeirio at wasanaethau arbenigol os oes angen.

Mae lleoliadau gofal plant wedi’u hariannu ar gael trwy Dechrau’n Deg, y Cynnig Gofal Plant a Theuluoedd yn Gyntaf. Lle rydym yn ariannu lleoliadau i gynorthwyo ag anghenion datblygiadol y plentyn, byddwn yn ystyried sut i gynorthwyo’r plentyn i gael mynediad i’r amgylchedd dysgu. Nid oes cynllun ariannu i gynnig cymorth ychwanegol i bob plentyn gael mynediad i ddarpariaeth gofal, a dyna pam rydym ni’n cynorthwyo lleoliadau i ystyried y ffordd orau iddyn nhw ddiwallu anghenion gofal y plant yn eu lleoliad.

Pontio o leoliad gofal plant i ysgol

Bydd lleoliadau gofal plant yn gweithio gyda theuluoedd a’u hysgol i gynorthwyo’r plentyn i mewn i’r ysgol trwy gyfarfod Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn.

Cyfarfod Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yw un lle mae’r holl bobl sy’n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau am eich plentyn yn cyfarfod. Mae’r cyfarfod yn canolbwyntio ar anghenion y plentyn a beth sy’n bwysig iddo nawr ac yn y dyfodol.

Rydym yn argymell cyfarfodydd o’r fath i bob plentyn sydd ag anghenion sy’n dod i’r amlwg ac nid yn unig rhai ag anghenion mwy cymhleth.

 

Dilynwch ni

Facebook