Wrth chwilio am ofal plant, mae’n syniad da caniatáu cymaint o amser ag sy’n bosibl i wneud eich gwaith ymchwil. Mae gan rai darparwyr gofal plant restrau aros, felly cysylltwch â’r rhai mae gennych ddiddordeb ynddyn nhw cyn gynted ag y gallwch.
Dylech hefyd ymweld â darparwyr i gael gwybod a ydyn nhw’n diwallu anghenion eich teulu cyn gwneud eich penderfyniad.
Mae nifer o opsiynau addysg gynnar a gofal plant i ddewis o’u plith ym mwrdeistref sirol Caerffili.
Mae’r rhain yn cynnig profiadau chwarae a dysgu cynnar i blant sy’n iau na 5 oed.
Maent yn tueddu i gael eu cynnal yn y bore neu’r prynhawn, neu weithiau’r ddau, ac fe’u darperir fel arfer yn ystod y tymor i blant rhwng 2 a 5 oed.
Mae rhai wedi’u cofrestru gyda’r Awdurdod Lleol i gynnig Lleoedd Addysg y Blynyddoedd Cynnar a lleoedd Dechrau’n Deg.
Mae’r rhain yn darparu gofal ac addysg gynnar amser llawn neu ran amser i fabanod a phlant hyd at 5 oed. Efallai y bydd rhai hefyd yn darparu gofal i blant hŷn cyn neu ar ôl yr ysgol, ac yn ystod gwyliau’r ysgol.
Mae rhai wedi’u cofrestru gyda’r Awdurdod Lleol i gynnig Lleoedd Addysg y Blynyddoedd Cynnar a lleoedd Dechrau’n Deg.
Fel arfer maen nhw ar agor o 8am i 6pm ac yn rhedeg trwy’r flwyddyn, gan gynnwys gwyliau’r ysgol.
Maen nhw’n cael eu cofrestru a’u harolygu gan AGC.
Mae gwarchodwyr plant yn darparu gofal i blant yn eu cartref eu hunain. Yn aml maen nhw’n cynnig oriau hyblyg ac yn darparu amrywiaeth fawr o gyfleoedd dysgu yn y cartref a’r tu allan iddo.
Maen nhw’n cael eu cofrestru a’u harolygu gan AGC.
Mae’r rhain yn darparu gofal a gweithgareddau o gwmpas oriau ysgol i blant oedran ysgol.
Mae gofal y tu allan i oriau ysgol yn cynnwys clybiau brecwast, gofal plant cofleidiol, clybiau ar ôl ysgol (gall yr oriau amrywio rhwng darparwyr) a chynlluniau chwarae gwyliau yn ystod gwyliau’r ysgol.
Maen nhw’n cael eu cofrestru a’u harolygu gan AGC.
Mae crèche yn darparu gofal achlysurol am gyfnodau cyfyngedig o amser. Gallai hyn fod os ydych chi’n siopa, dilyn cwrs neu’n mynd i’r gampfa. Nid opsiwn gofal plant hirdymor yw crèches ac mae angen i riant neu ofalwr aros yn agos.
Mae nanis yn darparu gofal plant yn eich cartref chi a gallan nhw edrych ar ôl plant o unrhyw oed.
Nid yw ein canfyddwr darparwyr gofal plant yn cynnwys gofalwyr yn y cartref fel nanis, ond mae offer chwilio ar gael ar wefannau arbenigol.
Dilynwch ni