Gwneud trefniadau gofal plant
Ar ôl ichi ddewis darparwr gofal plant, efallai y byddwch eisiau trefnu cytundeb ffurfiol sy’n nodi beth sy’n cael ei ddarparu ac am ba gost.
Mae telerau ac amodau eraill i’w hystyried yn cynnwys:
- manylion unrhyw ffi neu flaendal
- y dyddiad mae’r contract yn dechrau
- cyfnodau rhybudd
- beth sy’n cael ei gynnwys yn y gost, fel cewynnau a bwyd
- y diwrnodau a’r oriau y bydd eich plentyn gyda’r darparwr gofal plant
- beth sy’n digwydd ynghylch talu os yw’ch plentyn neu’r darparwr gofal plant yn sâl
- beth sy’n digwydd yn ystod amser i ffwrdd ar gyfer gwyliau a gwyliau banc
- unrhyw broblemau iechyd mae angen eu rheoli fel alergeddau
Ar ôl ichi gytuno ar fanylion y contract, dylai gael ei lofnodi a’i ddyddio gan yr holl bartïon. Dylai pob parti gadw copi.
Dilynwch ni