Arolygiaeth Gofal Cymru

Rôl Arolygiaeth Gofal Cymru ym maes gofal plant

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. Mae’n cofrestru, arolygu a gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru.

Adroddiadau arolygu

Wrth ichi chwilio am ddarparwr gofal plant, rydym yn argymell ichi wirio ei adroddiad gan AGC i sicrhau bod eich plentyn yn cael gofal o ansawdd da.

Dod o hyd i wasanaeth gofal

Sut rydym yn arolygu gwasanaethau gofal plant a chwarae

Dewis gwasanaeth gofal

Mae’n darparu gwybodaeth ac awgrymiadau oddi wrth arolygwyr AGC i’ch helpu wrth ichi ddewis gwasanaeth gofal.

Gwneud cwyn am ofal plant

Os oes gennych chi bryder am eich darparwr gofal plant, siaradwch ag ef yn uniongyrchol amdano. Yn aml bydd hyn yn datrys y rhan fwyaf o broblemau. Os nad ydych chi’n fodlon ar y canlyniad, gofynnwch am ei drefn gwyno.

Mae AGC hefyd yn cynnig cyngor ar sut i codi pryder am wasanaethau gofal.

 

Dilynwch ni

Facebook