Mae pob plentyn yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd. Mae Tîm y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a sefydliadau partner yn y sector gwirfoddol yn cynnig rhaglen o gysylltiadau ar gamau allweddol wrth i’ch plentyn ddatblygu – o feichiogrwydd hyd at 7 oed.
Ar ôl eich sgan pan fyddwch chi 20 wythnos yn feichiog, bydd Gweithiwr Teulu yn cysylltu â chi i’w gyflwyno ei hun ac esbonio pa gymorth sydd ar gael. Bydd yn cadw mewn cysylltiad ar gamau allweddol yn ystod eich taith, a gallwch chi hefyd gysylltu â’r gweithiwr hwnnw pryd bynnag y bydd angen cymorth arnoch chi.
Yn ogystal, byddwch chi’n cael diweddariadau rheolaidd, gan gynnwys gwybodaeth am wasanaethau allweddol a allai fod yn berthnasol i chi.
Er mwyn i ni allu darparu’r cymorth gorau i chi a’ch teulu, mae angen i ni gasglu a chadw gwybodaeth benodol. Rhagor o wybodaeth am sut mae gwybodaeth a data eich teulu yn cael eu rheoli.
Isod, mae crynodeb o’r cysylltiadau a fydd ar gael i’ch teulu, o feichiogrwydd hyd at pan fydd eich plentyn yn 7 mlwydd oed.

Pan fyddwch chi tua 26 wythnos yn feichiog, bydd eich Gweithiwr Teulu yn cysylltu â chi i gynnig cyngor a chymorth, gan gynnwys manylion am gyrsiau cyn geni i’ch helpu chi i baratoi ar gyfer eich babi.
Gallwch chi hefyd ymweld â’n tudalen cymorth yn ystod beichiogrwydd am ragor o adnoddau a chyngor.
Y geni – Bwydo ymatebolO fewn 72 awr ar ôl gadael yr ysbyty, bydd y gwasanaeth Bwydo Ymatebol yn cynnig cymorth o ran bwydo babanod, wedi’i deilwra i’ch anghenion. Gallwch chi hefyd ymweld â gwefan Iachach Gyda’n Gilydd i gael gwybodaeth am feichiogrwydd a’r geni, gan gynnwys cyngor am fwydo’ch babi yn ystod y chwe mis cyntaf.
10–14 diwrnod oed – Ymweliad ar ôl geniBydd eich Ymwelydd Iechyd yn asesu twf a datblygiad eich babi fel rhan o Raglen Plant Iach Cymru, ac yn eich annog chi i fynd â’ch babi i gael ei imiwneiddio pan fydd yn 8, 12 ac 16 wythnos oed.
2–6 mis oed – Dechreuadau DisglairYmunwch â chwrs cefnogol 8 wythnos o hyd am ddim sy’n ymdrin â bwydo, tylino babi, cynnydd datblygiadol, diogelwch yn y cartref, diddyfnu, a’ch lles. Rhagor o wybodaeth a chadw lle ar gwrs Dechreuadau Disglair.
4–12 mis oed – Dewch i siarad â’ch babiRhaglen 8 wythnos llawn hwyl, diddorol ac AM DDIM i blant rhwng 3 a 12 mis oed ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yw ‘Dewch i siarad â’ch babi’. Rhagor o wybodaeth a chofrestru ar gyfer Dewch i siarad â’ch babi.
6 mis oed – Adolygu iechyd y teuluBydd eich Ymwelydd Iechyd yn ymweld â’ch cartref i siarad am wytnwch teuluol a chynnig cymorth os oes angen, fel rhan o Raglen Plant Iach Cymru.
15 mis oed – Asesu datblygiad eich plentynBydd eich Ymwelydd Iechyd yn asesu datblygiad eich plentyn i weld sut mae’n tyfu ac yn datblygu, fel rhan o Raglen Plant Iach Cymru.
18 mis oed – Siarad gyda fiYmunwch â sesiwn sy’n cynorthwyo sgiliau iaith cynnar eich plentyn, yn helpu meithrin cartref llawn cyfathrebu, ac yn annog rhyngweithio cadarnhaol rhwng oedolion a phlant. Yn cael ei ddatblygu*
1–2 flwydd oed – Datblygiad plantManteisiwch ar syniadau ac adnoddau i gynorthwyo iaith a datblygiad cynnar eich plentyn. Ewch i’n tudalen Cymorth i Deuluoedd am gyngor ac adnoddau defnyddiol.
2–3 blwydd oed – Gofal Plant Dechrau’n DegGwiriwch eich cymhwysedd ar gyfer Gofal Plant Dechrau’n Deg a gwneud cais ar-lein. Mae mynychu gofal plant rhan-amser o ansawdd uchel yn rheolaidd yn gwella’r deilliannau i blant.
Gwiriwch eich cymhwysedd a gwneud cais am ofal plant Dechrau’n Deg wedi’i ariannu.
27 mis oed – Asesu datblygiad eich plentynBydd eich Ymwelydd Iechyd yn asesu datblygiad eich plentyn i weld sut mae’n tyfu ac yn datblygu, fel rhan o Raglen Plant Iach Cymru.
3–4 blwydd oed – Addysg y Blynyddoedd CynnarGwnewch gais ar-lein am addysg y blynyddoedd cynnar ran-amser, wedi’i hariannu, o’r tymor yn dilyn pen-blwydd eich plentyn yn 3 oed. I gael manylion, ewch i dudalen Addysg y Blynyddoedd Cynnar a dechrau ysgol.
3 ½ mlwydd oed – Adolygu iechyd y teuluBydd eich Ymwelydd Iechyd yn ymweld â’ch cartref i siarad am wytnwch teuluol a chynnig cymorth os oes angen, fel rhan o Raglen Plant Iach Cymru.
4–5 mlwydd oed – (Dosbarth Derbyn) – Adolygiad gan nyrs ysgolMae’n asesu anghenion iechyd eich plentyn, gan gynnwys golwg, clyw a thwf i’w gynorthwyo i gyrraedd ei botensial llawn yn yr ysgol.
4–7 mlwydd oed – Yr ysgol a thu hwntMae cymorth ar gael o ran ymddygiad, arferion a lles gartref. Mae’n cynnwys gwybodaeth am raglenni yn ystod gwyliau’r ysgol fel Bwyd a Hwyl mewn ysgolion a Chwarae yn y Parc.
Dilynwch ni