Gadewch i ni edrych ar lyfrau gyda’n gilydd

6 Mehefin, 2022

Gallwch chi helpu’ch plentyn bach chi i ddechrau ymddiddori mewn llyfrau unrhyw bryd, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n barod i ddarllen neu edrych ar stori gyfan eto. Yn lle darllen y geiriau, beth am geisio:

Dod o hyd i lyfr am rywbeth maen nhw’n ei hoffi yn barod. Er enghraifft, rhowch lyfr am gludiant ger eu ceir tegan rhag ofn y gallai fod o ddiddordeb iddyn nhw.

Sôn am y lluniau. Beth bynnag mae’ch un bach chi’n edrych arno ar y dudalen, dywedwch wrthyn nhw beth ydyw.

Gwnewch eich llyfr eich hun am eich plentyn chi gan ddefnyddio lluniau neu luniadau. Gallai gweld eu hunain a’r bobl y maen nhw’n eu hadnabod mewn llyfr cartref ei gwneud hi’n fwy cyffrous i edrych ar y stori.

Defnyddiwch leisiau doniol ar gyfer cymeriadau i wneud y stori’n llawn hwyl a chyffrous.

I gael rhagor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i Siarad gyda fi | LLYW.CYMRU

 

Dilynwch ni

Facebook