Siarad Gyda Fi

11 Ebrill, 2022

Mae’r Tîm Iaith Gynnar yn cyflwyno neges y mis Siarad Gyda Fi, a’r cyntaf yw ‘Y lle gorau i ni yw wyneb yn wyneb gyda chi’.

Os ydych chi gyda phlentyn, y lle gorau i fod yw ar eu lefel nhw (hyd yn oed os yw hyn yn golygu gorwedd ar y llawr!) er mwyn i chi allu gweld wynebau eich gilydd.

Mae hyn yn golygu y gallwch chi:

  • Gweld mynegiant wyneb eich gilydd
  • Gweld beth mae’r plentyn yn ymddiddori ynddo a rhoi’r geiriau cywir i gyd-fynd â’r hyn y mae’n gallu ei weld/yn ei wneud
  • Gall y plentyn wylio’ch ceg i weld sut rydych chi’n gwneud y synau mewn geiriau

Beth am geisio bod wyneb yn wyneb am 5 munud yn ychwanegol bob dydd a gweld faint mae’n newid eich rhyngweithiadau!

I gael rhagor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i wefan Siarad â fi.

 

Dilynwch ni

Facebook