Rydyn ni’n ymfalchïo mewn bod yn gwmni sy’n mynd gam ymhellach i wella cyfathrebu ac ansawdd gwasanaeth i’n cwsmeriaid a’n staff ni. Er mwyn cyflawni’r dasg hon, rydyn ni bellach yn darparu technoleg gynorthwyol Recite Me ar ein gwefan ni, sy’n galluogi ein hymwelwyr i addasu eu profiad mewn ffordd sy’n gweddu orau i’w hanghenion unigol.
Mae Recite Me yn feddalwedd cwmwl arloesol sy’n galluogi ymwelwyr i weld a defnyddio ein gwefan ni mewn ffordd sy’n gweithio orau iddyn nhw.
Rydyn ni wedi ychwanegu bar offer hygyrchedd gwe ac iaith Recite Me at ein gwefan ni i’w gwneud yn hygyrch a chynhwysol i gynifer o bobl â phosibl.
Mae’n helpu 1 o bob 5 person yn y DU sydd ag anabledd, gan gynnwys y rhai â chyflyrau cyffredin fel colli golwg a dyslecsia, i gael mynediad i’n gwefan ni yn y ffordd sydd fwyaf addas iddyn nhw.
Mae hefyd yn diwallu anghenion y 4.2 miliwn o bobl yn y DU sy’n siarad iaith heblaw Saesneg gartref, drwy gyfieithu ein cynnwys ni ar y we i dros 100 o ieithoedd gwahanol.
Gallwch chi agor Bar Offer Hygyrchedd Recite Me trwy glicio ‘Offer Hygyrchedd’ yng nghornel dde uchaf eich tudalen chi.
Mae’r botwm hwn bellach yn ymddangos yng nghornel dde uchaf pob tudalen o’n gwefan ni.
Ar ôl i chi glicio ‘Offer Hygyrchedd’, mae bar offer Recite Me yn agor ac yn dangos ystod o wahanol opsiynau ar gyfer addasu’r ffordd mae’r wefan yn edrych a ffyrdd y gallwch chi ryngweithio â’r cynnwys.
Mae Recite Me yn helpu pobl i gael mynediad i’n gwefan ni ac addasu’r cynnwys mewn ffordd sy’n gweithio orau iddyn nhw.
Mae gan far offer Recite Me ystod unigryw o swyddogaethau. Gallwch chi ei ddefnyddio i:
Yn ôl: Dychwelyd i baragraff blaenorol y testun.
Chwarae: Cliciwch y botwm Chwarae i ddarllen y testun yn uchel.
Ymlaen: Ewch ymlaen i baragraff nesaf y testun.
Lleihau: Bydd hyn yn lleihau maint y testun.
Ffont: Gallwch chi newid y ffont sy’n cael ei ddangos ar y dudalen
Cynyddu: Bydd hyn yn cynyddu maint y testun
Lliw: Newid lliw’r cefndir, y testun a dolenni
Pren mesur: Cliciwch i alluogi’r pren mesur darllen
Gorchudd sgrin: Creu ffenest fach ar gyfer canolbwyntio ar un rhan o’r dudalen
Geiriadur: Cliciwch ar y botwm hwn ac amlygu gair i weld y diffiniad
Cyfieithu: Cyfieithu testun i iaith wahanol
Chwyddwydr: Cliciwch a llusgo’r chwyddwydr i chwyddo’r testun ar y sgrin.
Modd testun: Dileu delweddau i weld cynnwys yn y modd testun plaen
Ymylon: Newid hyd a lled y testun trwy newid maint lled colofn y testun
Lawrlwytho sain: Cliciwch ar y botwm ac amlygu’r testun i’w lawrlwytho fel ffeil sain
Gosodiadau: Addasu gosodiadau eich bar offer Recite Me
Ailosod: Bydd hyn yn adfer y rhagosodiadau
Canllaw Defnyddwyr: Bydd hwn yn rhoi trosolwg i chi o nodweddion bar offer Recite Me
Ateb. Nac oes. Meddalwedd cwmwl yw Recite Me, felly nid oes angen gosod unrhyw beth ar eich cyfrifiadur.
Ateb. I lansio bar offer hygyrchedd gwe Recite Me, bydd angen i chi glicio ‘Offer Hygyrchedd’. Bydd hyn wedyn yn lansio’r bar offer, a fydd yn ymddangos ar frig y dudalen.
Ateb. I ddiffodd y darllen awtomatig, mae angen i chi glicio ar y botwm ‘Settings’. Bydd hyn yn rhoi rhestr o 3 swyddogaeth i chi ddewis ohonyn nhw. Mae angen i chi glicio ar y botwm i’r dde o’r opsiwn ‘Autoplay’. Bydd hyn wedyn yn analluogi darllen awtomatig.
Ateb. Ydy. Mae ein meddalwedd yn gweithio ar sawl dyfais a system weithredu, gan gynnwys dyfeisiau Android, iOS, Linux, Mac a Windows.
Ateb. Mae bar offer Recite Me yn defnyddio cwcis i gadw gosodiadau defnyddwyr.
Ateb. I newid iaith y wefan rydych chi’n edrych arni, mae angen i chi ddewis y botwm ‘Ieithoedd’. Bydd hyn wedyn yn cynhyrchu cwymplen o’r holl ieithoedd mae Recite yn eu cynnig. Dewch o hyd i’r iaith rydych chi ei heisiau o’r rhestr a gwasgu arni. Yna, bydd y wefan yn cael ei throsi i’r iaith honno.
Ateb. I greu MP3, yn gyntaf, diffoddwch yr opsiwn ‘Autoplay’ sydd wedi’i leoli o fewn y botwm gosodiadau. Amlygwch y rhan o’r testun rydych chi am ei chreu yn MP3. Ar ôl ei amlygu, dewiswch y botwm Lawrlwytho Sain o’r bar offer. Yna, fe welwch neges yn dweud wrthych chi fod eich ffeil yn cael ei chreu. Ar ôl ei chreu, fe welwch chi’r ffeil yn ymddangos ar waelod y dudalen we. Nawr, gallwch chi naill ai wrando ar y ffeil sydd wedi’i chreu neu ei chadw mewn lleoliad o’ch dewis.
Ateb. I gau’r bar offer Recite Me, cliciwch ar yr eicon ‘Close’ i’r dde o’r bar offer.
Dilynwch ni