Gwybodaeth a chyngor am y blynyddoedd cynnar, darpariaeth gofal plant a gwasanaethau cymorth cynnar i ddarpar rieni neu deuluoedd â phlant o enedigaeth hyd at 7 oed.
Os ydych yn pryderu am ddatblygiad eich plentyn, mae yna gymorth ar gael.
Cofrestrwch heddiw
Dysgwch am fanteision rhaglen Dechrau'n Deg a darganfod a ydych chi'n gymwys i gael gofal plant wedi'i ariannu
Mae’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cymryd lle y system anghenion addysgol arbennig (AAA), proses sy’n digwydd dros bedair blynedd academaidd o fis Medi 2021 i fis Awst 2025.
Mae eu Llyfrgell Adnoddau yn cynnig amrywiaeth o awgrymiadau, syniadau a strategaethau i helpu plant a phobl ifanc gyda gweithgareddau dyddiol fel hunanofal, cyfrannu at fywyd ysgol ac amser hamdden.
Os bydd pryderon yn parhau ar ôl rhoi cynnig ar y strategaethau wedi’u hawgrymu, mae proses atgyfeirio uniongyrchol ar gael drwy ffurflen cyn cyngor[VP1] . Fel arall, gall teuluoedd drefnu apwyntiad ffôn gyda Therapydd Galwedigaethol drwy ffonio 01633 431645.
Mae Sparkle yn cynorthwyo plant a phobl ifanc yng Ngwent ag anableddau a/neu anawsterau datblygiadol, ynghyd â’u teuluoedd. Eu nod yw sicrhau bod y plant hyn yn cael cymorth cyflawn ac yn gallu cymryd rhan mewn profiadau plentyndod gwerthfawr, gan fanteisio ar yr un amrywiaeth o gyfleoedd, profiadau bywyd, gweithgareddau a gwasanaethau cymunedol ag unrhyw blentyn arall.
Am ragor o wybodaeth, ewch i’w gwefan: Caerffili | Sparkle, helpu plant i ddisgleirio
Mae Cerebra yn elusen genedlaethol sy’n ymroddedig i helpu plant â chyflyrau ar yr ymennydd a’u teuluoedd. Mae Cerebra yn cynnig cyngor a chymorth i blant a’u teuluoedd mewn gwahanol ffyrdd i helpu teuluoedd i oresgyn heriau a darganfod bywyd gwell gyda’u plentyn.
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cerebra wedi helpu un fam yn yr erthygl hon.
Asesiad o ddarpariaeth Gymraeg ar draws y fwrdeistref a chynllun i gyrraedd 26% o ddysgwyr mewn Addysg Gymraeg ym mlwyddyn 1 erbyn 2032.
Mae’n tyfu o hyd ac yn gwneud cysylltiadau newydd. Pan fyddi di’n chwarae, gwrando a siarad gyda dy blentyn, rwyt ti’n ei helpu i ddysgu siarad ac yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd. Bydd y pethau bach rwyt ti’n eu gwneud yn gwneud gwahaniaeth mawr, nawr ac yn y dyfodol.
Dilynwch ni