Cymorth yn ystod beichiogrwydd

Cael beichiogrwydd iach

Cael beichiogrwydd iach

Mae llawer i feddwl amdano cyn beichiogi. Mae llawer o wybodaeth ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, o wybodaeth am y cyfnod cyn beichiogi i gyfnod y beichiogrwydd ac ymlaen at fwydo’ch baban yn y chwe mis cyntaf a’r cymorth sydd ar gael ganddynt Beichiog / Babi Newydd

Mae’r adran, Pwy fydd yn gofalu amdana i?, yn darparu manylion am weithwyr proffesiynol sy’n gallu eich helpu chi drwy gydol eich beichiogrwydd chi ac ar ôl hynny. Os oes gennych chi unrhyw bryderon cynenedigol o natur feddygol, cysylltwch ag Ysbyty Ystrad Fawr – Canolfan Geni. Mae gwybodaeth ddefnyddiol hefyd ar gael drwy ddilyn Gwasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar Facebook.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ateb rhai o’ch cwestiynau chi wrth i’ch plentyn chi dyfu a datblygu. Os nad ydyn nhw, neu os oes angen cymorth arnoch chi, cysylltwch â ni.

Gallwch chi gael llawer o wybodaeth drwy fynychu Rhaglen Cyn Geni Gwent.

Rhaglen Cyn Geni Gwent

Mae Rhaglen Cyn Geni Gwent yn darparu gwybodaeth a chymorth yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth, a gallwch chi gael mynediad at lawer o sesiynau gwybodaeth, cyrsiau cymunedol a chyrsiau ar-lein sydd wedi’u hamlinellu isod:

Sesiynau Gwybodaeth Cyn Geni

Gallwch chi fynychu sesiwn Gwybodaeth Cyn Geni leol sy’n darparu gwybodaeth am yr holl wasanaethau sydd ar gael cyn geni ac ar ôl genedigaeth. Mae’r rhain yn agored i bob darpar rieni yn dilyn eu sgan 20 wythnos. Mae cyfle i siarad â bydwraig, ymwelydd iechyd a staff o’r Tîm Bwydo Ymatebol. Gallwch chi hefyd gael gwybod am y cymorth sydd ar gael gan y tîm Teuluoedd yn Gyntaf, Cymorth i Deuluoedd a Hwb y Blynyddoedd Cynnar. Byddwch chi’n cael gwahoddiad i un o’r sesiynau hyn yn awtomatig yn dilyn eich sgan neu gallwch chi gofrestru yma.

Cofrestrwch ar gyfer y Sesiynau Gwybodaeth Cyn Geni yma

Cyrsiau Cyn Geni

Yn ystod eich beichiogrwydd, efallai y byddwch chi am ddysgu rhagor am feichiogrwydd, eich babi sy’n datblygu, datblygiad ei ymennydd, perthnasoedd, y geni a beth i’w ddisgwyl pan fydd y babi yn cyrraedd.

Gallwch chi fynychu sesiwn Gwybodaeth Cyn Geni leol sy’n darparu gwybodaeth am yr holl wasanaethau sydd ar gael cyn geni ac ar ôl genedigaeth. Mae’r rhain yn agored i bob darpar rieni yn dilyn eu sgan 20 wythnos. Mae cyfle i siarad â bydwraig, ymwelydd iechyd a staff o’r Tîm Bwydo Ymatebol. Gallwch chi hefyd gael gwybod am y cymorth sydd ar gael gan y tîm Teuluoedd yn Gyntaf, Cymorth i Deuluoedd a Hwb y Blynyddoedd Cynnar. Byddwch chi’n cael gwahoddiad i un o’r sesiynau hyn yn awtomatig yn dilyn eich sgan neu gallwch chi gofrestru yma.

Cofrestrwch ar gyfer y Cyrsiau Cyn Geni yma

Rhaglen Cyn Geni Dull Solihull

Yn ystod eich beichiogrwydd, efallai y byddwch chi am ddysgu rhagor am feichiogrwydd, eich babi sy’n datblygu, datblygiad ei ymennydd, perthnasoedd, y geni a beth i’w ddisgwyl pan fydd y babi yn cyrraedd.


Mae grŵp Cyn Geni Solihull yn rhaglen 5 wythnos ar gyfer darpar rieni a’u teuluoedd. Mae’n ymdrin â phynciau sy’n helpu i ddarparu dealltwriaeth o feichiogrwydd, esgor, y geni a’ch babi. Mae’r grŵp yn cael ei arwain gan Weithwyr Cymorth i Deuluoedd gyda chymorth Ymwelwyr Iechyd a Bydwragedd. Mae’r grŵp yn rhoi cyfle i gwrdd â rhieni eraill sy’n disgwyl babi a’u teuluoedd mewn amgylchedd meithringar.

Cofrestrwch ar gyfer y Rhaglen Cyn Geni Dull Solihull yma

Os yw’n well gennych chi, gallwch chi gael mynediad at y Cwrs Cyn Geni Solihull hwn a llawer eraill ar-lein. Ewch i https://inourplace.co.uk/ a defnyddio’r cod mynediad GEYAP i gael mynediad am ddim.

Dechreuadau Disglair

Ar ôl i’ch babi gael ei eni, mae Dechreuadau Disglair yn gwrs 8 wythnos am ddim sy’n rhoi cymorth i rieni yn y misoedd cynnar. Bydd rhieni’n cael cymorth, gwybodaeth a chyngor ar amrywiaeth o bynciau megis bwydo, cynnydd datblygiadol, diogelwch yn y cartref, lles a tylino babi.

Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen we Dechreuadau Disglair.

Cychwyn Iach

Os ydych chi’n feichiog ers 10 wythnos neu fwy neu os oes gennych chi blentyn o dan 4 oed, efallai y bydd gennych hawl i gael help i brynu bwyd iach a llaeth

Os ydych yn gymwys, bydd cerdyn Cychwyn Iach yn cael ei anfon atoch gydag arian arno a gallwch ddefnyddio hwn mewn rhai siopau yn y DU, a bydd taliad ychwanegol yn cael ei roi ar y cerdyn bob 4 wythnos.

Gallwch defnyddio eich cerdyn i brynu:

  • laeth buwch plaen
  • llysiau a ffrwythau ffres, wedi’u rhewi neu mewn tun
  • cod-lysiau ffres, sych neu dun
  • fformiwla babanod wedi’i wneud o laeth buwch

Gallwch gael mwy o wybodaeth gan gynnwys sut i wneud cais yma www.healthystart.nhs.uk/frequently-asked-questions/applying-for-healthy-start-faqs/

Cymorth i chi

Mae cyngor ar gael gan Lywodraeth Cymru i’ch helpu chi gyda’r heriau o ddydd i ddydd o fod yn rhiant. Ewch i’w gwefan, Rhianta. Rhowch amser iddo, am awgrymiadau ymarferol am ddim a chyngor arbenigol ar gyfer eich holl heriau magu plant chi.

Siarad gyda fi

Mae ymennydd dy blentyn yn tyfu ac yn gwneud cysylltiadau newydd drwy’r amser. Pan fyddi di’n siarad gyda dy blentyn, rwyt ti’n helpu ei ymennydd i dyfu hyd yn oed yn fwy, gan roi’r dechrau gorau mewn bywyd iddo. Mae chwarae, gwrando a sgwrsio gyda dy blentyn yn gallu ei helpu i ddysgu siarad. Bydd hyn yn golygu y bydd yn gallu gwneud ffrindiau’n haws a’i helpu i deimlo’n hapusach.

Mae gennym lawer o offer, tips a chyngor i helpu i gael dy blentyn bach yn siarad.

Gwylia fi…

O cyn iddo gael ei eni nes iddo dyfu i fyny, galli di gael effaith gadarnhaol ar dy blentyn. Gwylia’r fideos hwyliog hyn i weld ein deg tip gwych i gael dy blentyn i siarad.

Dewch i ni siarad â’ch babi

Mae Dewch i siarad â’ch babi yn gwrs rhyngweithiol, AM DDIM, llawn hwyl i bob teulu â babanod rhwng 3 mis a 12 mis oed. Mae’n cael ei redeg gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) ar y cyd ag Elklan, ac mae’n gallu cael ei gyflwyno naill ai ar-lein neu’n wyneb yn wyneb. Mae’n cynnig amser strwythuredig i ymgysylltu a chwarae gyda’n gilydd, wrth gael rhai awgrymiadau da am gefnogi datblygiad sgiliau lleferydd ac iaith babanod nawr ac yn y dyfodol. Ewch i wefan GAVO am fanylion neu gofrestru yma.

 

Dilynwch ni

Facebook