Mae tîm y Blynyddoedd Cynnar yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau partner sy’n cynnig cymorth amrywiol i deuluoedd.
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ragor o wybodaeth am yr amrywiaeth o wasanaethau arbenigol i blant ag anghenion cymhleth, gan gynnwys cyngor ar gwsg, therapi galwedigaethol, ffisiotherapi plant, maeth a dieteg plant, bwydo enteral ac ati. Mae amrywiaeth o wasanaethau ar gael o Ganolfan Plant Caerffili.
Nod ISCAN yw darparu un pwynt mynediad i blant a phobl ifanc o enedigaeth hyd at 18 oed sydd â dau neu ragor o anghenion datblygiadol er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn.
Mae ISCAN y Gorllewin wedi’i leoli yng Nghanolfan Plant Caerffili, Eneu’r-glyn. Mae ISCAN yn drafodaeth aml-asiantaethol i benderfynu pa gymorth sydd fwyaf priodol ar gyfer y plentyn/person ifanc. Bydd yr atgyfeiriad gan y gweithiwr proffesiynol yn cael ei ategu gan wybodaeth ehangach yn yr holiadur i rhieni/ofalwyr.
Manylion cyswllt ISCAN y Gorllewin: 02920 867447 neu ABB.ISCANSectorwest@wales.nhs.uk
Mae Lles SPACE yn broses aml-asiantaethol i gydlynu cymorth, ymyrraeth gynnar a darpariaeth arbenigol ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol plant. Mae’r paneli ym mhob un o’r pum awdurdod lleol yng Ngwent a’u nod yw atal achosion o ailgyfeirio, asesu ac ymyrryd, gwella gweithio ar y cyd a hwyluso’r broses i deuluoedd fanteisio ar gymorth drwy lwybr cymorth clir. Mae’r ffurflen atgyfeirio a rhagor o wybodaeth ar gael ar eu tudalen we.
Mae Gwasanaeth Sbectrwm Awtistig Caerffili yn brosiect unigryw sydd wedi’i leoli yn Ysgol Cae’r Drindod. Mae’r tîm yn cynnig cymorth i blant, pobl ifanc, teuluoedd ac ysgolion, lle mae diagnosis wedi’i gadarnhau o Anhwylder Sbectrwm Awtistig. Mae’r ffurflen atgyfeirio, yr hyfforddiant sydd ar gael a gwybodaeth ddefnyddiol arall ar eu tudalen we.
Mae SNAP Cymru yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i deuluoedd ac yn gweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol ym meysydd Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd, Ysgolion, darparwyr y Blynyddoedd Cynnar, Gyrfa Cymru a phartneriaid y Trydydd Sector, gan gynnwys gwybodaeth ddiduedd, cyngor, datrys anghydfodau ac eiriolaeth. Maen nhw hefyd yn cynnig hyfforddiant ac amrywiaeth o daflenni/adnoddau.
Sparkle yw partner elusennol Canolfan Plant Caerffili ynghyd â Serennu a Chanolfan i Blant Nevill Hall. Mae’r elusen wedi ariannu cytundebau yn ogystal â chodi arian i ddarparu gwasanaethau amrywiol.
Ar hyn o bryd mae Blynyddoedd Cynnar Caerffili yn ariannu Sparkle i gyflwyno digwyddiadau chwarae i’r teulu a chlwb chwarae yn ystod gwyliau’r ysgol i blant ag anghenion ychwanegol. Mae’r rhain yn cael eu hysbysebu’n uniongyrchol i deuluoedd sy’n cofrestru ar gyfer cylchlythyr Sparkle.
Dilynwch ni