Gwybodaeth a data eich teulu

Gwybodaeth a data eich teulu

Mae pob plentyn yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd. Gallwn ni eich cynorthwyo chi a’ch teulu yn ystod y blynyddoedd cynnar. Rhagor o wybodaeth am daith eich teulu drwy’r Blynyddoedd Cynnar.

Er mwyn i ni allu eich cynorthwyo chi a’ch teulu, mae angen i ni gadw gwybodaeth benodol amdanoch chi.

Protocol Rhannu Gwybodaeth

Er mwyn cynorthwyo taith eich teulu drwy’r Blynyddoedd Cynnar, mae gennym ni Brotocol Rhannu Gwybodaeth ar waith gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae hwn yn gytundeb ffurfiol a chyfreithiol sy’n nodi’r telerau, amodau, a’r sail gyfreithlon ar gyfer rhannu data personol rhwng ein sefydliadau. Mae’n sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n ddiogel, yn briodol, ac yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Beth yw Protocol Rhannu Gwybodaeth?

Mae’n esbonio sut mae sefydliadau yng Ngwent yn rhannu gwybodaeth bersonol i gynorthwyo plant o’r adeg cyn geni hyd at 7 oed.

Pwy sy’n cymryd rhan?

Mae’n cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, awdurdodau lleol, lleoliadau gofal plant a sefydliadau partner.

Pa wybodaeth sy’n cael ei rhannu?

Dim ond yr wybodaeth bersonol angenrheidiol leiaf sy’n cael ei rhannu â ni. Gall hyn gynnwys manylion amdanoch chi a’ch teulu, cyfeiriad, anghenion iechyd ac addysg, ac ymyrraeth gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Ar ddechrau eich taith drwy’r blynyddoedd cynnar, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn rhannu gwybodaeth â ni yn ystod beichiogrwydd a phan fydd eich plentyn yn cael ei eni.‍

Sut y byddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth

Rydyn ni’n trin eich preifatrwydd o ddifrif. Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn esbonio sut y byddwn ni’n casglu, defnyddio a diogelu eich data personol yn ystod eich taith drwy’r blynyddoedd cynnar.

Darllen ein Hysbysiad Preifatrwydd

Dewis peidio â chymryd rhan yn Nhaith y Teulu gyda Blynyddoedd Cynnar Caerffili

Os nad ydych chi am gael gwasanaeth Taith y Teulu gyda Blynyddoedd Cynnar Caerffili, ar ôl i chi roi gwybod i ni, ni fyddwch chi’n cael y canlynol:

  • Cyswllt gan Weithiwr Teulu’r Blynyddoedd Cynnar (gall sefydliadau partner barhau i gysylltu â chi)
  • Gwybodaeth ategol berthnasol am fentrau lleol a chenedlaethol yn ogystal â chymorth, cyngor, awgrymiadau a gweithgareddau llawn hwyl.
  • Mynediad at grwpiau fel Togetherness (Cynenedigol), Dechreuadau Disglair, cymorth rhianta ac ati.
  • Unrhyw gynnig o’n gwasanaethau ni, gan gynnwys hysbysiad o gymhwysedd ar gyfer gofal plant a ariennir, fel Dechrau’n Deg

Os ydych chi’n dewis peidio â chymryd rhan:

  • Gallwch chi newid eich meddwl a chysylltu â ni ar unrhyw adeg
  • Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw ar y gronfa ddata addysg
  • Bydd unrhyw gais am gymorth yn y dyfodol sy’n dod i law drwy ein gwefan (ISCAN / NESH / Lles SPACE ac ati, neu gofrestru i fynychu grŵp) yn ail-actifadu eich gwasanaeth Taith y Teulu. Mae’r prosesau hyn yn cynnwys hysbysiadau preifatrwydd unigol.
 

Dilynwch ni

Facebook