Bwndeli Babi

Bwndeli Babi

Pecynnau i rieni yng Nghymru yw Bwndeli Babi sy’n cynnwys eitemau hanfodol ar gyfer babanod newydd eu geni.

Mae’r rhain yn cynnwys dillad, blancedi, tywelion, llieiniau mwslin a llawer mwy.

Pwy all gael Bwndel Babi?

Mae hon yn rhaglen wedi’i thargedu. Gall eich bydwraig wirio eich cymhwysedd yn eich apwyntiad cynenedigol 16 wythnos.

Yn yr ardaloedd cymwys, gall gofalwyr maeth, mabwysiadwyr, a’r rhai y mae menyw arall yn geni plentyn ar eu rhan gofrestru ar gyfer bwndel hefyd.

Sut i gofrestru

Os ydych chi’n gymwys, bydd eich bydwraig yn cwblhau ffurflen gofrestru gyda chi yn eich apwyntiad 25 wythnos.

Os ydych chi’n riant newydd sy’n byw mewn ardal gymwys ac wedi colli’r cyfnod cofrestru, bydd eich Ymwelydd Iechyd yn gallu eich cofrestru ar gyfer bwndel hyd nes fydd eich babi’n bedair mis oed.

Pryd fydd eich bwndel yn cyrraedd

Bydd eich bwndel yn cael ei ddanfon i’ch drws rhwng 32 a 34 wythnos o feichiogrwydd.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.llyw.cymru/bwndel-babi neu gofynnwch i’ch bydwraig/ymwelydd iechyd.

 

Dilynwch ni

Facebook