Rhaglen hyfforddi’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant

Rhaglen hyfforddi’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant

Ydych chi’n angerddol am weithio gyda phlant a theuluoedd? Mae Rhaglen Hyfforddi’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn cynnig y cyfle i bob hyfforddai ddatblygu sgiliau hanfodol a chael dealltwriaeth gynhwysfawr o wasanaeth y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn ei gyfanrwydd.

Mae hyfforddeion yn cynorthwyo gweithrediadau dyddiol, yn ymgysylltu â phlant a theuluoedd, ac yn cael profiad o arferion datblygiad plant o ansawdd uchel. Maen nhw hefyd yn cwblhau’r cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn llwyddiannus drwy Fframwaith Prentisiaethau Cymru.

Gwyliwch y fideo isod i ddysgu rhagor am y rhaglen a chlywed gan hyfforddeion presennol am eu profiadau.

 

Dilynwch ni

Facebook