Newidiadau arfaethedig i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

19 Gorffennaf, 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y newidiadau arfaethedig i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir. Mae’r ddogfen ymgynghori a’r dogfennau atodol yn esbonio’r newidiadau hyn.

Ar sail adborth gan y sector ac fel rhan o’r adolygiad o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol, rydym wedi canolbwyntio ein hymdrechion ar y newidiadau canlynol sy’n rhoi mwy o eglurder i ddarparwyr gofal plant, gan gael gwared â rhywfaint o’r amwysedd ynghylch y safonau ac ychwanegu canllawiau. Gellir crynhoi’r prif newidiadau polisi fel a ganlyn:

  • Gofynion Cymorth Cyntaf (Safon 10: Gofal iechyd) Mae Safon 10 wedi’i diweddaru i ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch y gofynion hyfforddi ar gyfer gwahanol leoliadau ynghyd â chyfarwyddyd ychwanegol ynghylch cyrsiau yn Atodiad B (Canllawiau ar gyfer Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig).
  • Gwarchodwyr plant sydd â chynorthwywyr (Safon 13: Person addas) Mae Safon 13(GP) a Safon 1.2: Datganiad o Ddiben wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r gofynion ar gyfer gwarchodwyr plant sy’n cyflogi cynorthwywyr. Mae atodiad hefyd wedi’i ddatblygu i ategu’r safon hon (Atodiad A (Canllawiau ar gyfer Cynorthwywyr Gwarchodwyr Plant)).
  • Cymwysterau gofal plant darparwyr gofal dydd (Safon 13: Person addas) Mae Safon 13.10(GD)(b) yn disodli Safon 13.7(GD) i esbonio’n llawn yr hyn sy’n ofynnol mewn perthynas â staff sy’n gweithio tuag at gymhwyster, a’r meini prawf cysylltiedig y byddai angen iddynt eu bodloni er mwyn sicrhau statws o fod yn gweithio tuag at gymhwyster, i gael eu cynnwys yn y cymarebau staffio gofynnol.
  • Aelod staff ychwanegol (Safon 15: Cymarebau staffio) Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig dileu’r safon hon gan fod diffyg hyblygrwydd y gofyniad wedi creu problemau ers tro. Byddai hyn yn golygu gallu cynnwys rheolwyr lleoliadau gofal dydd sydd wedi’u cofrestru ar gyfer 20 neu fwy o blant yn y cymarebau oedolion: plant (os oes ganddynt y cymwysterau iawn).
  • Datganiad ansawdd a Safon 18: Sicrhau ansawdd Datganiad newydd ar yr hyn y mae ansawdd uchel yn ei olygu yng nghyd-destun darpariaeth gofal plant. Mae Safonau 18.1 i 18.5 wedi’u newid i adlewyrchu’r gofynion Ansawdd yn gliriach.
  • Diogelu (Safon 20: Amddiffyn plant) Cryfhau’r wybodaeth ynghylch pa hyfforddiant diogelu y dylai’r sector gofal plant a gwaith chwarae ei gael i sicrhau bod darparwyr yn bodloni gofynion perthnasol y Safonau Gofynnol Cenedlaethol a’r rheoliadau (rheoliad 20, Diogelu a hyrwyddo lles, a rheoliad 22, Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant).
  • Rydym hefyd am gael eich barn ynghylch sut gall y Safonau Gofynnol Cenedlaethol gefnogi Cymru Wrth-hiliol, ac rydym am wneud mân-ddiwygiadau i ddyluniad y ddogfen.

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o 28 Mehefin tan 20 Medi 2022.

Dweud eich dweud >>

 

Dilynwch ni

Facebook