Helpu’ch plentyn i ddod o hyd i’w lais – Mudandod Dethol – Adnodd Newydd
Rydyn ni’n gwybod y gall fod yn destun pryder pan fydd eich plentyn yn ei chael hi’n anodd siarad mewn rhai sefyllfaoedd. Nid ydych chi ar eich pen eich hun – ac mae cymorth ar gael.
Mae Therapyddion Iaith a Lleferydd Arbenigol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a ledled Cymru wedi llunio cyfres o adnoddau sydd wedi’u cynllunio i helpu rhieni i ddeall a chynorthwyo plant â Mudandod Dethol.
Mae’r adnodd hwn wedi’i gynllunio i ddarparu syniadau ymarferol, sicrwydd ac arweiniad er mwyn i chi allu helpu eich plentyn i deimlo’n ddiogel ac yn hyderus – gartref ac yn yr ysgol.
Beth yw cynnwys yr adnodd hwn?
Mae’r Padlet ar gael yma: Adnoddau mudandod dethol ar gyfer rhieni a staff addysg
Dilynwch ni