Cofrestru ar Dewis

Yydch chi'n cynnig gwasanaeth i wella llesiant pobl?

Cofrestru ar Dewis

Gwefan yw Dewis Cymru sy’n ceisio helpu pobl gyda’u llesiant. Dyma’r lle GORAU i bobl fynd am wybodaeth neu gyngor am lesiant – boed eu llesiant eu hun neu lesiant aelod o’r teulu neu ffrind.

Pam dylwn i adio fy ngwybodaeth i at Dewis Cymru?

Llawer o resymau. Os oes gennych chi wasanaeth sy’n helpu pobl gyda’u llesiant, bydd adio’ch manylion at Dewis Cymru yn ei gwneud yn haws iddynt ddod o hyd i chi. Yn ei hanfod, os ydych chi’n helpu pobl gyda’u llesiant, mae Dewis Cymru am wybod amdanoch chi a’r hyn rydych CHI’N ei wneud.

Mae rhesymau da eraill i’w ddefnyddio Dewis

Cymru yn cynnwys:

  • Mae’n rhad ac am ddim
  • Mae’n hawdd cofrestru ac adio’ch manylion
  • Bydd yn eich atgoffa chi bob chwe mis i wirio’ch manylion, felly byddwch chi’n gwybod eu bod yn gyfredol
  • Mae’n darparu mapiau a chyfarwyddiadau i helpu pobl i ddod o hyd i chi
  • Mae’n cael ei ddefnyddio gan lawer o asiantaethau cyngor yn barod i gyfeirio pobl at wasanaethau lleol a all eu helpu, felly bydd cael eich gwybodaeth ar Dewis Cymru yn golygu bod modd cyfeirio pobl at eich gwasanaeth.

Felly, beth ydw i’n ei wneud nesaf?

I adio’ch gwybodaeth chi, bydd angen i chi gofrestru. Ewch i www.dewis.cymru a ‘Chofrestru’ i greu eich cyfrif. Ar ôl i chi wneud hyn, bydd rhaid ‘Mewngofnodi’ i’r safle a mynd i ‘Rheoli adnoddau’ ac ‘Ychwanegu adnoddau’ er mwyn adio gwybodaeth am eich gwasanaethau chi.

Gaf i adio gwybodaeth am unrhyw wasanaeth?

Cewch. Rydym ni’n annog pobl i adio gwybodaeth am wasanaethau penodol maen nhw’n eu cynnig. Felly, os ydych chi’n cynnal grŵp cymunedol, cewch roi manylion am ei nodau, ble a phryd mae’n cwrdd, a sut i gysylltu â chi. Os ydych chi’n cynrychioli corff sy’n darparu amrediad o wasanaethau, adiwch y gwasanaethau’n unigol er mwyn i ddefnyddwyr y safle gae dod o hyd i’r gwasanaeth maen nhw’n chwilio amdano.

Sut i gysylltu â ni

Cewch gysylltu â ni drwy:

Canllawiau ar sut i gofrestru/mewngofnodi ac ychwanegu/golygu gwybodaeth am eich adnodd at Dewis Cymru (PDF)

 

Dilynwch ni

Facebook