Prosiect Chwarae Cynhwysol
Rydyn ni’n gallu cael cyllid drwy Grant Gwyliau Gwaith Chwarae Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon (2023-2024) ar gyfer rhaglenni sy’n cefnogi newyn gwyliau. Ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, rydyn ni’n treialu cynllun newydd i roi mynediad i gyfleoedd chwarae yn ystod y gwyliau i blant o’r teuluoedd mwyaf agored i niwed. Mae hwn yn gynllun peilot ar gyfer Hanner Tymor y Gwanwyn gyda’r potensial i redeg drwodd i’r cyfnodau gwyliau dilynol, os oes cyllid ar gael.
Mae’r prosiect Chwarae Cynhwysol wedi’i dargedu at blant oed Ysgol Gynradd (derbyn i flwyddyn 6). Rhaid i leoliadau gofal plant fod wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) gyda darpariaeth yn ystod oriau gwyliau ysgol i wneud cais i fod yn rhan o’r prosiect. Nod y prosiect yw cynnig cyfleoedd i blant penodol gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae a hamdden.
Mae gan Chwarae Cynhwysol ddwy gangen: un i gefnogi plant oedran ysgol ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r llall i gefnogi plant oedran ysgol o deuluoedd sy’n agored i niwed.
Chwarae Cynhwysol – Plant Oedran Ysgol ag ADY
Bydd rhieni yn talu am y sesiwn clwb gwyliau, ar gyfradd swm penodol y clwb fesul plentyn. Bydd y cyllid grant yn caniatáu i’r darparwyr gyfrannu at gymarebau staffio uwch ar gyfer chwarae cynhwysol tra’n diwallu anghenion unigol y plentyn. Bydd hwn yn cael ei ddyfarnu i ddarparwr i gefnogi ar y cyd â phlant eraill a allai fod angen cymorth hefyd i hwyluso chwarae neu reoli perthnasoedd â chyfoedion. Mae hwn yn addas ar gyfer plant sy’n mynychu ysgol brif ffrwd sydd â Chynllun Datblygu Unigol (CDU) ysgol ac nad ydyn nhw ar gofrestr Ysgol Arbenigol.
Gwybodaeth allweddol ar gyfer y gangen ADY
- Bydd plant cymwys mewn dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 6 mewn ysgolion cynradd prif ffrwd (gan gynnwys ar y gofrestr mewn Canolfannau Adnoddau Arbenigol)
- Cyfanswm o ddwy sesiwn 6 awr yr wythnos yn ystod y gwyliau
- £30 y sesiwn 6 awr y plentyn tuag at gostau’r lleoliad / cymorth ychwanegol
- Bydd trefniadau cinio yn unol â gweithdrefnau cinio arferol y lleoliad (e.e. gall rhieni ddarparu pecyn bwyd)
- Bydd plant yn cael eu lleoli yn ôl dewis rhieni o’r rhestr o leoliadau cymeradwy sy’n cymryd rhan yn y cynllun, sydd ar gael ar Wefan y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili
- Bydd cyllid ar gael i leoliadau trwy ffurflen LlPU Chwarae Cynhwysol (Lleoliad Plentyn Unigol) ar gyfer yr oriau sydd wedi’u drefnu, sydd ar gael ar Wefan y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili
Proses ADY
- Mae lleoliadau yn cael eu gwahodd i lenwi Datganiad o Ddiddordeb (DoDd) i gynnal y prosiect Chwarae Cynhwysol.
- Or ôl ei gymeradwyo, bydd cofnod y lleoliad ar Dewis yn cael ei ddiweddaru gyda’r hashnod ‘#ChwaraeCynhwysol’ ac felly’n ymddangos ar restr lleoliadau cymeradwy Chwarae Cynhwysol.
- Bydd Cydlynydd ADY ysgolion yn hyrwyddo’r ddarpariaeth hon i rieni y mae gan eu plant CDUau ysgol.
- Unwaith y bydd Cydlynydd ADY yr Ysgol wedi trafod y ddarpariaeth hon gyda rhieni, a rhieni wedi mynegi diddordeb mewn cymryd rhan, bydd Cydlynydd ADY yr Ysgol yn e-bostio ymyrraethgynnar@caerffili.gov.uk gyda’r manylion canlynol am y plentyn: Enw cyntaf, Cyfenw a Dyddiad Geni
- Bydd Tîm y Blynyddoedd Cynnar yn anfon y cod cymhwysedd at Gydlynydd ADY yr Ysgol i’w rannu â’r rhiant/rhieni, sydd wedyn yn cadw eu lle gyda’r lleoliad cymeradwy o’u dewis ac yn cofrestru gyda’r lleoliad gan ddefnyddio eu gweithdrefn gofrestru arferol.
- Bydd y lleoliad, gyda’r rhiant/rhieni, yn llenwi Ffurflen Lleoliad Plant Unigol (LlPU) Chwarae Cynhwysol.
- Unwaith y bydd yr LlPU wedi’i gymeradwyo, bydd y lleoliad a’r rhiant/rhieni yn derbyn e-bost gyda manylion y sesiynau sydd wedi’u cymeradwyo.
- Bydd lleoliadau yn derbyn cofrestr presenoldeb i’w chwblhau a’i chyflwyno erbyn 5pm ar ddydd Gwener yr wythnos wyliau.
- Bydd taliadau’n cael eu gwneud ar ôl cwblhau a chyflwyno’r gofrestr.
Chwarae Cynhwysol – Teuluoedd sy’n Agored i Niwed
Yn y gangen teuluoedd bregus nid yw’r rhieni yn talu am y sesiwn clwb gwyliau eu hunain, gan fod lleoedd yn cael eu hariannu gan Grant Gwyliau Gwaith Chwarae. Mae’r gangen hon yn cefnogi plant agored i niwed sydd yn y dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 6 i gael mynediad i leoliad clwb gwyliau at ddibenion chwarae, cymdeithasol a hamdden. Plant sy’n agored i niwed yw’r rhai nad oes ganddynt fynediad at brofiadau cyfoethogi yn ystod gwyliau’r ysgol a byddan nhw’n cael eu nodi gan Dîm Cymorth i Deuluoedd y Blynyddoedd Cynnar.
Gwybodaeth allweddol ar gyfer y gangen Teuluoedd Agored i Niwed
- Bydd plant cymwys mewn dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 6 mewn ysgolion cynradd prif ffrwd (gan gynnwys ar y gofrestr mewn Canolfannau Adnoddau Arbenigol)
- Cyfanswm o ddwy sesiwn 6 awr yr wythnos yn ystod y gwyliau
- £30 y sesiwn 6 awr y plentyn a chost cinio am £2.50
- Bydd teuluoedd cymwys yn cael eu nodi gan ein Tîm Cymorth i Deuluoedd
Proses Teuluoedd sy’n Agored i Niwed
- Mae lleoliadau yn cael eu gwahodd i lenwi Datganiad o Ddiddordeb (Dod) i gynnal y prosiect Chwarae Cynhwysol.
- Ar ôl ei gymeradwyo, bydd cofnod y lleoliad ar Dewis yn cael ei ddiweddaru gyda’r hashnod ‘#ChwaraeCynhwysol’ ac felly’n ymddangos ar restr lleoliadau cymeradwy Chwarae Cynhwysol.
- Bydd Tîm Cymorth i Deuluoedd y Blynyddoedd Cynnar yn nodi’r plant hynny a fydd yn gymwys ar gyfer y cynllun ac yn rhoi cod Cymhwysedd i’r rhiant/rhieni.
- O’r rhestr lleoliadau cymeradwy, bydd y rhiant/rhieni yn cael eu cefnogi gan Dîm Cymorth i Deuluoedd y Blynyddoedd Cynnar i gysylltu â’r lleoliad o’u dewis i gadw lle a chofrestru gyda’r lleoliad gan ddefnyddio eu gweithdrefn gofrestru arferol.
- Bydd y lleoliad yn cwblhau, gyda’r rhiant/rhieni. y Ffurflen Lleoliad Plant Unigol (LlPU) Chwarae Cynhwysol ar Wefan y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant.
- Unwaith y bydd yr LlPU wedi’i gymeradwyo, bydd y lleoliad a’r rhiant/rhieni yn derbyn e-bost gyda manylion y sesiynau i’w hariannu.
- Bydd lleoliadau yn derbyn cofrestr presenoldeb i’w chwblhau a’i chyflwyno erbyn 5pm ar ddydd Gwener yr wythnos wyliau.
- Bydd taliadau’n cael eu gwneud ar ôl cwblhau a chyflwyno’r gofrestr.
Datganiad o Ddiddordeb
Mae gwasanaethau’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili yn gwahodd Datganiadau o Ddiddordeb gan ddarparwyr gofal plant sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac sy’n darparu gofal plant yn ystod gwyliau’r ysgol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r cynllun hwn, llenwch y ffurflen isod a’i hanfon drwy e-bost at hwbyblynyddoeddcynnar@caerffili.gov.uk erbyn 10 Ionawr 2024.
Dilynwch ni