Datblygiad eich plentyn chi

Os ydych yn pryderu am ddatblygiad eich plentyn, mae yna gymorth ar gael

Datblygiad eich plentyn

Mae plant i gyd yn dysgu sgiliau ar adegau gwahanol felly mae angen i ni roi amser iddyn nhw ddysgu, chwarae a thyfu trwy weithgareddau hwyliog.

Ewch i’n tudalen we Awgrymiadau ynghylch Rhianta i gael gwybodaeth a chyngor am rai o’r pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i’ch plentyn chi. Efallai y byddwch chi’n dod o hyd i rai o’r atebion i’ch cwestiynau chi ar y tudalennau hyn

Ydych chi’n pryderu am ddatblygiad eich plentyn?

Os ydych chi’n poeni nad yw eich plentyn yn cyrraedd ei gerrig milltir ac yn meddwl efallai bod angen cymorth arno, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd. Bydd yn asesu’ch plentyn ac yn cynnig cymorth os oes ei angen.

Gallwch hefyd gysylltu â ni yn nhîm y Blynyddoedd Cynnar i gael cymorth. Gofynnir i chi lenwi ein ffurflen ar-lein i ofyn am gymorth.

Gallwn ddarparu amrywiaeth o raglenni i gynorthwyo teuluoedd:

  • Rhaglen rhieni fel addysgwyr cyntaf. Mae’r rhaglen hon ar gyfer plant 0-3 oed. Mae’n eich cynorthwyo chi a’ch plentyn i feithrin sgiliau ac yn addysgu gwahanol weithgareddau y gallwch eu gwneud gyda’ch plentyn i hybu ei ddatblygiad. Gellir darparu’r sesiynau hyn mewn grwpiau bach neu i deuluoedd unigol.
  • Rhaglen Ymuno a Chwarae. Mae dysgu trwy chwarae yn bwysig a gall helpu plant ifanc i fod yn barod am yr ysgol, hybu eu dychymyg a helpu â’u datblygiad. Os nad yw’ch plentyn yn cyrraedd ei gerrig milltir datblygiadol, gall y rhaglen Ymuno a Chwarae weithio gyda chi a’ch plentyn cyn iddo ddechrau yn yr ysgol i ddarparu strategaethau chwarae sy’n helpu i ddatblygu sgiliau echddygol, iaith a datblygiad gwybyddol eich plentyn.
  • Lleoedd â Chymorth a Chefnogaeth. Os byddwn ni’n teimlo y byddai lleoliad gofal plant o fudd i blentyn ag anghenion datblygu sy’n dod i’r amlwg, gallwn gynorthwyo teuluoedd ag incwm isel i gael gofal plant rhan-amser am y tymor cyn iddynt ddechrau mewn ysgol feithrin. Gallwn weld sut y bydd eich plentyn yn setlo ac yn rhyngweithio â’r plant eraill a chanfod unrhyw gymorth neu strategaethau y bydd eu hangen pan fydd yn mynd i’r ysgol feithrin. Yn aml mae plant sy’n mynd i’r lleoedd hyn wedi cael cymorth trwy gynllun Portage neu raglen Ymuno a Chwarae.

Portage

Rhaglen ymyriad yn y cartref yw Portage a gynigir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gyfer plant cyn oed ysgol sydd ag anghenion datblygiadol cymhleth. Mae cynghorydd datblygiad plant yn gweithio gyda rhieni a gofalwyr i greu set o weithgareddau yn y cartref sy’n hybu datblygiad y plentyn ac yn ymweld â’r teulu’n rheolaidd i fonitro cynnydd. Fel arfer caiff Portage ei drefnu gan ymwelydd iechyd neu bediatregydd.

I gael rhagor o wybodaeth am Portage, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Iachach Gyda’n Gilydd.

 

Dilynwch ni

Facebook